Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 24 Hydref 2018.
Wel, mae hwn yn fater eithriadol o bwysig ar draws Cymru, yn enwedig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, rwy'n credu. Rydym yn parhau i ymgysylltu ag awdurdodau lleol a'u hariannu er mwyn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol, ac rydym hefyd yn gweithio'n agos iawn gyda hwy mewn sawl ffordd i wella gwasanaethau bysiau ymhellach, yn enwedig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.