1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 24 Hydref 2018.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant theatr yng Nghymru? OAQ52802
Drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, mae'r Llywodraeth hon yn cefnogi amrywiaeth eang o weithgarwch theatr ledled Cymru yn y ddwy iaith, gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, ac wrth gwrs, y canolfannau cynhyrchu hollbwysig hynny sydd wedi'u lleoli yn Theatr y Torch yn Aberdaugleddau, Theatr Sherman yma yng Nghaerdydd ac yn Theatr Clwyd.
Diolch. Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, Theatr Clwyd yw'r ganolfan gynhyrchu neu'r theatr gynhyrchu fwyaf yng Nghymru. Mae'n cyfrannu'n sylweddol at economi gogledd-ddwyrain Cymru, mae'n gyflogwr mawr, ac mae wedi gweld trosiant cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf. Roeddech yn sôn am gyngor y celfyddydau. Maent wedi ariannu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer y prosiect ailddatblygu cyfalaf arfaethedig, ac maent bellach wedi buddsoddi eu swm mwyaf erioed, sef £1 miliwn, ar gyfer y cam cynllunio a datblygu, gyda'r cyngor yn cyfrannu arian cyfatebol. Ond at ei gilydd, byddant angen £15 miliwn i £22 miliwn dros dair blynedd i gwblhau'r prosiect, ac maent yn dweud wrthyf y bydd yn rhaid cau'r adeilad os na allant gyflawni'r rhaglen gyfalaf yn awr. Beth rydych chi a'ch adran yn ei wneud i'w cefnogi, i roi'r hyder iddynt wybod y gallant gael mynediad at gyllid ar y lefel honno, er mwyn sicrhau y bydd y theatr gynhyrchu fwyaf yng Nghymru yn parhau i ffynnu a thyfu?
Rwy'n falch o roi sicrwydd y bydd yr adeilad yn cael ei gadw fel theatr fyw, a bydd yn cael ei adnewyddu dros gyfnod o amser. Yn wir, mae iddo le, ac mae wedi ennill ei le eisoes, fel enghraifft o foderniaeth ddiweddar yn argraffiad diweddaraf John B. Hilling ar bensaernïaeth Cymru, sydd newydd gael ei gyhoeddi.
Rwyf wedi ymweld â Theatr Clwyd fy hun, ac wedi cael trafodaethau hir gyda hwy. Ni allwn ddynodi'n glir sut y byddwn yn bwrw ymlaen o ran y gwaith adnewyddu hwn, ond rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud am bwysigrwydd y theatr, nid yn unig fel ased diwylliannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond fel sbardun economaidd ar draws y Gororau, gan ei fod yn cael llawer o gefnogaeth, fel y gwn yn dda o fy ymweliadau â'r lle, gan ogledd-orllewin Lloegr yn ogystal. Mae'n brosiect â blaenoriaeth uchel, i gyngor celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i sicrhau, fel y dywed yr Aelod, y bydd yr adeilad hwn yn parhau i fod yn ganolfan gynhyrchu fawr ar gyfer drama fyw, wedi'i leoli yn harddwch cefn gwlad Clwyd, ac yn benodol, yn ardal yr Wyddgrug ac afon Alun.
Diolch. Yn olaf, cwestiwn 7, Julie Morgan.