Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:23, 24 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gymeradwyo Llywodraeth Cymru a chyngor Caerdydd, a'r sector preifat, am y  cydweithio rhagorol sy'n gwneud cymaint i weddnewid canol Caerdydd ar hyn o bryd? Yr unig ddrwg yn y caws a welaf ar hyn o bryd yw'r tir ar Sgwâr Callaghan sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn barod i'w ddatblygu ers peth amser rwy'n credu. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn berchen arno ers 2013. Pryd y gwelwn rywfaint o gynnydd o ran gwneud defnydd priodol o'r safle yn y rhan bwysig hon o'n prifddinas?