Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 24 Hydref 2018.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i warantu na fydd gwladolion yr UE yn y DU yn colli eu hawliau, hyd yn oed mewn Brexit 'dim cytundeb'. Byddai creu amgylchedd gelyniaethus lle mae gwladolion yr UE yn penderfynu gadael yn niweidiol iawn i'n heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a'n henw da yn rhyngwladol.