Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 24 Hydref 2018.
Mae ein hadroddiad yn mynd i'r afael â'r rhesymau pam y mae angen cartrefi effeithlon o ran eu defnydd o ynni, costau cael tai nad ydynt yn defnyddio ynni'n effeithlon a'r camau angenrheidiol i ni gyrraedd lle mae angen inni fod er mwyn diwallu ein hymrwymiad ar leihau allyriadau. Pam y mae angen newid? Ceir llawer o resymau pam y dylem wella gallu ein stoc dai i arbed ynni. Y pwysicaf yw'r angen i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol i gael gwared ar dlodi tanwydd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae angen i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau 80 y cant erbyn 2050. Mae targedau heriol yn galw am atebion heriol. Bydd lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn yn ein cartrefi yn cyflymu'r cynnydd tuag at y nodau hyn yn sylweddol. Bydd cyrraedd y targedau hyn yn galw am gynyddu uchelgais yn sylweddol a rhaid i hynny rychwantu holl ysgogiadau polisi Cymru.
Ein prif argymhelliad yw y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth carbon isel 10 mlynedd, gan gynnwys cerrig milltir a thargedau mewn chwe maes allweddol, gan gynnwys adeiladu o'r newydd, ôl-osod a chynllunio. Byddaf yn canolbwyntio ar dri o'r meysydd allweddol hynny heddiw.
Yn gyntaf, ôl-osod. Erbyn 2050, mae'n debygol y bydd llawer iawn mwy o dai a adeiladwyd yn yr ugeinfed ganrif nag o dai a adeiladwyd yr unfed ganrif ar hugain, ac mewn sawl rhan o Gymru, bydd mwy o dai a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg nag o dai a adeiladwyd yr unfed ganrif ar hugain. Felly, yn amlwg, mae angen inni ôl-osod. Mae cartrefi aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni yn arwain at filiau tanwydd uwch a'r tlotaf yn ein cymdeithas sy'n dioddef waethaf o ganlyniad i hyn. Mae gormod o bobl sy'n agored i niwed yn talu gormod am eu gwres heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwario miliynau lawer ar liniaru tlodi tanwydd trwy ôl-osod mesurau effeithlonrwydd gwresogi ar gyfer y rhai sy'n wynebu fwyaf o berygl. Mae ein hadroddiad yn canmol ymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem hon a'r cyhoeddiad o £72 miliwn pellach yn rhaglen Arbed i barhau'r rhaglen. Er gwaethaf ymdrechion y Llywodraeth, ni chyrhaeddwyd y targed tlodi tanwydd. Rydym wedi clywed bod angen gwneud gwaith ôl-osod ar raddfa fawr er mwyn cael unrhyw effaith ar dlodi tanwydd, ac ôl-osod 40,000 o dai y flwyddyn er enghraifft er mwyn bod ag unrhyw obaith o gyrraedd y targed erbyn 2050. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru anelu at ôl-osod yr holl dai sydd mewn tlodi tanwydd yng Nghymru i fyny at safonau gweithredu di-garbon o fewn 10 mlynedd.
Yr ail faes yr hoffwn ganolbwyntio arno yw adeiladu o'r newydd. Er mai 6 y cant yn unig o dai a adeiladir o'r newydd, mae'n rhywbeth sy'n rhaid ei gael yn iawn. Bydd adeiladau newydd heddiw yn dal i gael eu defnyddio yn yr ail ganrif ar hugain. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru, o fewn oes ein strategaeth 10 mlynedd arfaethedig, sicrhau bod pob tŷ newydd yn cael ei adeiladu yn ôl safonau di-garbon.
Ychydig o adeiladwyr tai ar raddfa fawr a geir, ac nid oes llawer o gymhelliad i gynnig mwy na'r safon sy'n ofynnol yn ôl y rheoliadau adeiladu, ond mae rhai adeiladwyr mawr braidd yn amharod i adeiladu ffyrdd i safonau mabwysiadwy, heb sôn am wneud yn siŵr fod tai'n cael eu hadeiladu i fod yn gynnes. Dywedwyd wrthym y byddai newidiadau i'r rheoliadau adeiladu yn arwain at adeiladu llai o dai yng Nghymru. Mae pawb ohonom wedi clywed hynny o'r blaen, onid ydym, Ddirprwy Lywydd? Dywedwyd hynny wrthym am systemau chwistrellu. Ond dywedwyd wrthym hefyd, gyda rhybudd ac amser, y bydd cwmnïau adeiladu tai mawr hyd yn oed yn gallu addasu i safonau adeiladu uwch. Credwn y dylai Llywodraeth Cymru nodi amserlen glir i symud tuag at dai di-garbon ar waith, fel y gall adeiladwyr tai, y gadwyn gyflenwi a darparwyr sgiliau baratoi. Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad ar hyn.
Roeddem hefyd yn bryderus i glywed rhanddeiliaid yn dweud wrthym nad yw'r safonau adeiladau presennol yn cael eu gorfodi. Yn amlwg, nid yw'r system yn gweithio. Mae angen i'r system arolygu fod yn llawer mwy trylwyr ac annibynnol. Rydym wedi galw ar y Llywodraeth i gyflwyno marc ansawdd ar gyfer mesurau arbed ynni mewn tai a adeiladir o'r newydd a thechnoleg ôl-osod i gynyddu hyder defnyddwyr mewn cartrefi carbon isel. Rhaid i arolygu a gorfodi'r nod ansawdd hwn gael ei orfodi'n annibynnol ac yn drylwyr. Hefyd, dylai osod rhwymedigaeth ar y gosodwr i sicrhau bod y perfformiad gofynnol yn cael ei ddarparu neu atgyweirio, neu osod technoleg o'r newydd. Nid 'Dyma'r hyn y gallech ei gyflawni pe bai popeth arall yn gweithio'n berffath.'
Wrth gwrs, ni ellir darparu'r mesurau uchelgeisiol hyn ar gyfer ôl-osod ac adeiladu o'r newydd oni bai fod gennym fynediad at y sgiliau cywir ar yr amser cywir. Gwelsom fod prinder gweithwyr proffesiynol medrus yn gweithio yn y diwydiant. Mae'r angen i dalu am lafur ychwanegol yn cynyddu cost y dechnoleg angenrheidiol, sy'n gwneud adeiladwyr yn amharod i'w gosod. Dywedodd cynrychiolwyr y diwydiant wrthym mai'r rhwystr mwyaf i fuddsoddi mewn hyfforddiant yw diffyg sicrwydd yn y farchnad. Er mwyn buddsoddi mewn hyfforddiant, mae angen iddynt wybod y bydd y sgiliau hynny'n cael eu defnyddo. Dyma pam y mae ymrwymiad clir i amserlen 10 mlynedd tuag at safonau gweithredu di-garbon mor bwysig. Bydd yn rhoi hyder i'r diwydiant hyfforddi'r gweithlu sydd ei angen arnom i ddod â'n cartrefi i mewn i'r unfed ganrif ar hugain.
Yn olaf, hoffwn droi at ymateb Llywodraeth Cymru. Nid wyf wedi treulio llawer o amser yn siarad amdano hyd yma. Bydd yn gyfarwydd iawn i'r Aelodau—derbyn argymhellion mewn egwyddor, ond nid oes gennym syniad sut y cânt eu cyflawni'n ymarferol. Dywedir wrthym fod pynciau'n cael eu hadolygu gan grwpiau o ymgynghorwyr neu weision sifil. Gellir maddau i Aelodau am deimlo rhywfaint o déjà vu. Rwy'n meddwl am 'gytuno mewn egwyddor' fel rhywbeth sy'n golygu, 'Nid ydym yn mynd i'w wneud, ond nid ydym am gael dadl ynglŷn â pheidio â'i wneud, felly fe wnawn dderbyn mewn egwyddor fel bod gennym elfen gadarnhaol yno.' Mewn gwirionedd, ac rwy'n edrych arnoch chi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod arnom angen system lle mae pethau naill ai'n cael eu derbyn, eu derbyn yn rhannol a bod y rhannau a dderbynnir yn cael eu henwi, neu'n cael eu gwrthod. Byddai'n well o lawer gennyf gyflwyno argymhellion sy'n cael eu gwrthod a gallaf ddadlau'r achos pam na ddylent gael eu gwrthod wedyn. Sut y mae dadlau yn erbyn 'cytuno mewn egwyddor'? Mae gennych y 'cytuno' i mewn yno—hynny yw, rydych yn cytuno ag ef mewn egwyddor, felly sut y mae dadlau'r achos hwnnw? Mae'n gwneud bywyd yn anodd iawn, ac nid yn achos yr adroddiad hwn yn unig y mae'n digwydd, Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, nid ymosodiad personol yw hynny, mae'n ymateb eithaf cyffredin gan y Llywodraeth y credaf ei fod yn annerbyniol.
Cymerwch ein hargymhelliad allweddol ynghylch strategaeth gynhwysfawr 10 mlynedd ar gyfer tai carbon isel. Dywed yr ymateb fod grŵp cynghori eisoes yn edrych ar y materion hyn ac y bydd yn adrodd yn ôl yn haf 2019. Cynhwyswch yr amser y bydd yn cymryd i'r Llywodraeth ymateb, ac yna ychwanegwch yr amser y bydd yn cymryd i ddatblygu polisi go iawn sy'n ymarferol a'r amser sydd ei angen i ymgynghori yn ei gylch—ychydig iawn o gynnydd a wnawn yn ein rhaglen 10 mlynedd. Rwy'n credu y byddwn i lawr i bump wedi'r rhestr honno, os nad aiff dim o'i le. Mae'n wirioneddol bwysig inni fod o ddifrif ynglŷn â chreu tai carbon isel.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siarad ar ran y pwyllgor cyfan—rydym yn teimlo'n rhwystredig oherwydd yr oedi a'r diffyg cynnydd. Mae ein hadroddiad yn cynnwys cynigion uchelgeisiol a heriol i Gymru. Rydym yn gobeithio yn eich ymateb y byddwch yn dangos yr un uchelgais ag a ddangoswyd gennym ni tuag at sicrhau tai carbon isel i Gymru.