5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ei Ymchwiliad, 'Tai Carbon Isel: yr Her'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 24 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:20, 24 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor, sy'n cydnabod bod darparu tai carbon isel yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd a heriau sylweddol. Adeiladau domestig sy'n gyfrifol am gyfran bwysig o allyriadau carbon Cymru. Fodd bynnag, mae'n bwysig deall y gellir lleihau allyriadau mewn llawer o ffyrdd gwahanol, a bydd angen amrywiaeth o atebion, yn seiliedig ar y math o dŷ, deiliadaeth, perfformiad ynni, demograffeg, defnydd adeiladau ac amrywiaeth o ffactorau eraill. Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio a minnau, ochr yn ochr â'n cyd-Aelodau gweinidogol, yn ymrwymedig i drawsnewid Cymru yn wlad ffyniannus mewn byd carbon isel.

Ym mis Gorffennaf, cytunodd y Cabinet i wneud datgarboneiddio yn faes blaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb'. Ym mis Rhagfyr, byddwn yn gofyn i'r Aelodau gytuno ar dargedau allyriadau ar gyfer 2020, 2030 a 2040, a'n dwy gyllideb garbon gyntaf. Bydd hyn yn darparu llwybr datgarboneiddio clir ar gyfer Cymru. Dros yr haf, lansiwyd ymgynghoriad gennym i ofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ar ein dull o ddatgarboneiddio Cymru, ac roeddwn yn hapus iawn gyda'r ymateb. Mae'r ymatebion hyn yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd a byddant yn llywio datblygiad ein cynllun cyflawni carbon isel, a gyhoeddir ym mis Mawrth 2019.

Roedd ein hallyriadau o'r sector preswyl yn 8 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru yn 2016, ac mae allyriadau o'r sector wedi gostwng 25 y cant ers y llinell sylfaen yn 1990. Rydym eisoes wedi ymrwymo i ddatblygu rhaglen newydd o gamau gweithredu a fydd yn datgarboneiddio cartrefi yng Nghymru 80 y cant erbyn 2050. Bydd targedau a cherrig milltir clir i'r rhaglen hon. Rydym wrthi'n datblygu'r rhaglen gan ddefnyddio ymchwil annibynnol wedi'i chomisiynu'n arbennig i ddarparu sylfaen dystiolaeth gref. Mae'r grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio cartrefi, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid allanol, yn ein helpu i ddatblygu'r rhaglen, a'i chyflwyno wedyn.

Ar hyn o bryd, nid yw'n bosibl cefnogi argymhelliad y pwyllgor ynglŷn â strategaeth tai carbon isel yn llawn, gan ei bod hi'n dal yn aneglur beth fydd yr ymchwil a'r grŵp cynghori ar ddatgarboneiddio yn ei argymell i Weinidogion. Disgwylir yr adroddiad yn ystod haf 2019. Ond yn ddiweddar, siaradais mewn digwyddiad a drefnwyd gan Mark Isherwood, ac fe ymrwymais i fod yn barod iawn i weithio ar gyflwyno'r strategaeth honno yn gynt, a chredaf mai'r cyngor a roddodd y rhanddeiliaid imi yn y cyfarfod hwnnw oedd y byddai gofyn cael strategaeth 10 mlynedd.

Yn y cyfamser, defnyddir ein rhaglen tai arloesol i brofi atebion carbon isel. Yn 2018-19, mae'n agored i landlordiaid cymdeithasol a'r sector preifat. Mae hyn yn bwysig gan ei fod yn annog y sector busnesau bach a chanolig ym maes tai yng Nghymru i ddechrau adeiladu eto, ond mewn ffordd sy'n newid eu harferion presennol. Drwy bartneriaethau sgiliau rhanbarthol a rhaglenni cymorth amrywiol, mae Llywodraeth Cymru yn darparu buddsoddiad yn y ddarpariaeth hyfforddiant i sicrhau bod gan y sector adeiladu weithlu gyda'r sgiliau priodol i gyflawni ei dargedau ar gyfer cartrefi sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur er mwyn darparu gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ar lefelau darparu presennol yn erbyn tueddiadau cyfredol, ond maent hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr a phrosiectau datblygu sylweddol i ragweld anghenion sgiliau yn y dyfodol.  

Mae Rhan L o'r rheoliadau adeiladu yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd i gynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd a darparu cartrefi sydd bron yn ddi-ynni fan lleiaf. Cyfeiriodd David Melding at fwlch perfformiad fel y'i gelwir, ond rwy'n credu'n sicr y bydd yr adolygiad hwn yn mynd i'r afael â hynny yn y dyfodol. Byddaf yn ystyried gosod safonau llymach os na fydd adeiladu bron yn ddi-ynni yn bodloni ein dyheadau presennol o ran ynni. Fel rhan o'r gwaith ar gyflawni'r newidiadau nesaf i Ran L, byddwn yn nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol y tu hwnt i'r adolygiad presennol a'r amserlen ar gyfer eu cyflawni.

Drwy ein rhaglenni ein hunain, rydym yn hyrwyddo safonau uchel o ran effeithlonrwydd ynni a gosod. Gyda chau'r tariffau cyflenwi trydan ym mis Mawrth 2019, bydd angen inni edrych hefyd i weld sut yr ysgogwn ostyngiadau mewn allyriadau drwy fesurau ynni adnewyddadwy mewn cartrefi. Eleni, rydym wedi dyfarnu a pharatoi contractau ar gyfer cyfnod nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd. Mae contractau Nyth ac Arbed 3 yn mynnu bod asesiadau tŷ cyfan yn cael eu cynnal i sicrhau bod yr ateb cywir yn cael ei gynnig. Golyga hyn ein bod yn gwella effeithlonrwydd ynni yn y cartref ac yn rhoi'r cymorth y maent ei angen i bobl beidio â byw mewn tlodi tanwydd. Rydym yn buddsoddi'n sylweddol yn y rhaglen hon, gyda buddsoddiad o £104 miliwn rhwng nawr a 2021. Bydd ein buddsoddiad hefyd yn denu hyd at £24 miliwn o gyllid o'r UE yn ogystal â chyllid o rwymedigaeth cwmni ynni y DU, a bydd hyn yn ein galluogi i wella hyd at 25,000 o gartrefi.

Eisoes mae gennym gynlluniau i gomisiynu dadansoddiad cost a budd o ôl-osod cartrefi, a bydd hynny'n cynnwys aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd. Bydd hyn yn gwella'r modd y byddwn yn helpu pobl allan o dlodi tanwydd yn y dyfodol, tra'n cefnogi ein hamcanion o ran datgarboneiddio tai. Rydym hefyd yn arwain y ffordd drwy ddangos ffyrdd y gall darparwyr morgeisi gymell cyfraddau benthyca ffafriol ar gyfer cartrefi carbon isel. Mae'r prosiect i fenthycwyr dan arweiniad y diwydiant wedi darparu fformiwla ar gyfer asesiadau fforddiadwyedd sy'n ystyried effeithlonrwydd ynni'r eiddo a gall ddarparu benthyciadau ychwanegol ar gyfer cartrefi mwy effeithlon. Cyflwynwyd y fformiwla hon i gyfrifwr fforddiadwyedd Cymorth i Brynu—Cymru ym mis Mehefin eleni.

Er ein bod yn cydnabod pwysigrwydd symud tuag at gartrefi di-garbon neu garbon isel, nid ydym am gyflwyno hyn i'r holl gynlluniau ar hyn o bryd, ond yn hytrach, cyflwyno'r math hwn o ofyniad dros gyfnod o amser. Mae cronfa safleoedd segur Cymru, er enghraifft, wedi'i chynllunio i ddod â chohort o BBaChau sy'n datblygu at ei gilydd cyn inni gyflwyno gofyniad o'r fath. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol, ac os daw rhagor o dystiolaeth i law sy'n cefnogi'r achos dros newidiadau i bolisi neu drethiant, bydd Llywodraeth Cymru'n hapus i edrych eto ar yr achos. Diolch.