Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 24 Hydref 2018.
Mae absenoldeb cyfarwyddyd o'r fath wedi arwain at anghysondeb a chymhlethdod. Mae angen cyfarwyddyd yn awr ar frys er mwyn osgoi dirywiad pellach y gwasanaethau sydd ar gael. Nid yw hyn yn golygu mai'r gwasanaethau eu hunain yw'r unig bethau yr effeithir arnynt gan ddiffyg strategaeth gyffredinol. Mae telerau ac amodau staff y sector yn amrywio'n fawr rhwng awdurdodau. Rhaid rhoi sylw i hyn hefyd. Byddai cysondeb mewn perthynas â thelerau ac amodau staff yn caniatáu ymagwedd fwy cydweithredol tuag at ddarpariaeth, gan alluogi awdurdodau lleol i gydlynu gwasanaethau a rhannu adnoddau. Gellid defnyddio strategaeth o'r fath hefyd i gyflwyno mesurau a thargedau perfformiad er mwyn sicrhau safonau cyfatebol ledled Cymru. O'r herwydd, er fy mod i'n siomedig fod yr argymhelliad hwn wedi'i wrthod, yn ôl pob golwg, rwy'n credu, ar y sail nad oedd y gair 'addysg' yn y teitl ar ein cynllun arfaethedig, rwy'n falch fod byrdwn yr argymhelliad yn cael ei ystyried yn astudiaeth ddichonoldeb Ysgrifennydd y Cabinet.
Fodd bynnag, rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet ei henw dan ragair yr adroddiad flwyddyn yn ddiweddarach ar y gwasanaethau cerdd, felly nid wyf yn deall pam y mae Ysgrifennydd y Cabinet, drwy wrthod argymhelliad 2, wedi datgan nad yw'n credu y dylai gymryd cyfrifoldeb strategol am wasanaethau cerddoriaeth, gan eu bod y tu allan i'w phortffolio. A beth bynnag, rwy'n credu bod llawer o enghreifftiau wedi digwydd eisoes o fewn Llywodraeth Cymru o Weinidogion yn mabwysiadu arweiniad strategol ar bethau nad ydynt yn eu portffolio'n llwyr. Gwn ei bod hi wedi gwneud cyhoeddiadau mewn perthynas â'r gwaddol ac arian ychwanegol ar gyfer offerynnau. Felly, rwy'n credu ei bod wedi arwain drwy esiampl yn hynny o beth.
Mae'n amlwg yn yr adroddiad ein bod yn sôn am gynllun ar gyfer addysg cerddoriaeth. Felly, rwy'n credu bod gwrthodiad Ysgrifennydd y Cabinet o argymhellion 2, 6, 8 a 12, sydd oll yn ymwneud â'n cynllun gweithredu cenedlaethol arfaethedig ar gyfer cerddoriaeth, braidd yn fyrbwyll. Awgrymaf fod yr argymhellion wedi'u cymryd allan o gyd-destun, ond byddaf yn falch o glywed beth yw dadansoddiad Ysgrifennydd y Cabinet, a gobeithiaf y gallwn ddod i gasgliad cadarnhaol.
Wrth gwrs, rydym wedi croesawu cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet y bydd pob cyngor yn derbyn £10,000 ychwanegol ar gyfer prynu offerynnau cerdd. Nodwyd prinder offerynnau cerdd yn ystod ein hymchwiliad fel un mater ymysg llawer o faterion mwy o faint. Ond rwy'n credu bod gan bob awdurdod lleol broblemau unigryw a chlywsom gan wasanaethau cerddoriaeth lleol fod angen inni ystyried y cyflenwad presennol, y boblogaeth ddisgyblion a lefel amddifadedd. Mae'r hyn y gall Merthyr Tudful ei wneud gyda £10,000 yn wahanol iawn i'r hyn y gall Caerdydd ei wneud gyda'r arian hwnnw.
Rydym yn croesawu creu Anthem, Cronfa Gerdd Cymru—gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth a gyflwynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet, gyda chefnogaeth buddsoddiad o £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn amlwg yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac yn un y gobeithiaf y bydd yn darparu rhan effeithiol o ateb mawr ei angen i'r argyfwng presennol, ac rwy'n siŵr y bydd gan gyd-aelodau'r pwyllgor, fel fi, ddiddordeb brwd yn hyn o beth.
Ers cyhoeddi ein hadroddiad, rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi agor deialog gyda mi er mwyn trafod ffordd ymlaen. Ac mae'r sgyrsiau hyn wedi bod yn adeiladol o ran eu cywair a hoffwn glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud yma heddiw mewn perthynas â hynny. Diolch i'r llu o randdeiliaid sydd wedi rhoi syniadau mewn perthynas â sut y gallwn godi'r pryderon hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet.
Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at ei swyddogion yn uniongyrchol, gan ddweud sut yr hoffwn weld y £2 filiwn o gyllid Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn y cytundeb cyllidebol gyda Phlaid Cymru yn cael ei wario. Nid wyf am roi manylion hynny yma heddiw, ond gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet, naill ai heddiw, neu rywbryd yn y dyfodol agos, roi syniad inni o'i chynigion ar gyfer gwaith yn y dyfodol.