Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Rydym ni'n gobeithio rhoi syniad anffurfiol o fewn y pythefnos nesaf. Nid yw'n wir y bydd pob un ceiniog o'r cyllid canlyniadol yn mynd i lywodraeth leol, ond maen nhw'n flaenllaw yn ein meddyliau, ac, fel y dywedais, maen nhw ar flaen y ciw. Rydym ni'n deall yr anawsterau y maen nhw'n eu hwynebu. Bu'n rhaid i ni, wrth gwrs, wneud penderfyniadau anodd iawn o ran yr hyn nad ydym wedi gallu ei wneud, er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd y toriad i gyllid llywodraeth leol mor ddifrifol ag y gallai wedi bod fel arall, ond mae'r trafodaethau hynny yn parhau ac rydym ni eisiau gweld beth allwn ni ei wneud i helpu llywodraeth leol, er y bydd yn dal i fod yn anodd.