Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Mae'r Aelod yn iawn i ddweud ein bod ni wedi ymrwymo i gynorthwyo busnesau yng Nghymru. Rydym ni wedi darparu yn ystod y flwyddyn hon tua £210 miliwn o ryddhad ardrethi i gynorthwyo busnesau a thalwyr ardrethi eraill. Mae'r trefniadau rhyddhad hynny ar gael i'r holl dalwyr ardrethi hynny sy'n bodloni'r meini prawf. Rydym yn nodi, wrth gwrs, cyhoeddiad y Canghellor. Nid ydym wedi gweld eto beth fydd hynny'n ei olygu o ran cyllid canlyniadol. Nid ydym yn gwybod ychwaith sut bydd y system yn gweithio yn Lloegr. Pan fydd y manylion hynny gennym ni, wrth gwrs, gallwn roi ystyriaeth bellach i'r mater.