Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fel efallai y gwyddoch, mae hi'n Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Straen yr wythnos hon a mis Tachwedd yw Mis Ymwybyddiaeth o Iechyd Dynion. O gofio bod dros 63 y cant o oedolion a thros 55 y cant o blant yng Nghymru yn aros yn hwy na phedair wythnos i gael triniaeth iechyd meddwl, ac o gofio bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn credu y dylai cael mynediad prydlon at wasanaethau iechyd meddwl fod yn brif flaenoriaeth, pam nad yw'n un o brif flaenoriaethau eich Llywodraeth?