Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Diolch, Llywydd. Ddwywaith yn ystod yr wythnosau diwethaf—mewn cynhadledd gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain ac mewn cyfweliad gyda Guto Harri—rydych chi wedi cyfeirio at y nifer cynyddol o fusnesau llwyddiannus Cymreig sydd yn gwerthu mas i gwmnïau o'r tu fas i Gymru. Fe ddywedoch chi eich bod chi eisiau efelychu system y mittelstand yn yr Almaen, lle mae cwmnïau cynhenid yn tyfu ac yn datblygu yn gwmnïau canolig eu maint, yn hytrach nag yn cael eu prynu. A ydych chi wedi gwneud asesiad o hyd a lled y broblem yma? Hynny yw, faint o gwmnïau canolig Cymreig sydd wedi cael eu cymryd drosodd yn ystod y 12 i 15 mis diwethaf?