Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:03, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, y pryder sydd gennym ni am ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd yw eu bod nhw'n gwbl seiliedig ar gasgliadau gwyddonol am agweddau iechyd y cyhoedd ar lygredd aer. Popeth yn iawn. Ond nid ydyn nhw'n ystyried ymarferoldeb technegol nac agweddau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol cyflawni hynny. A dyma ble mae'n rhaid i ni gael cydbwysedd fel Llywodraeth. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl, er enghraifft, y gellid gwella ansawdd aer ym Mhort Talbot yn enfawr pe na byddai gwaith dur yno, ond byddai neb yn awgrymu o ddifrif bod hynny'n rheswm, wedyn, i roi terfyn ar gynhyrchu dur ym Mhort Talbot. Ac eto, rydym ni'n gwybod y bydd y gwaith dur yn anochel—er gwaethaf, wrth gwrs, y ffaith ei fod wedi gwella'n aruthrol dros y blynyddoedd o ran lleihau ei ôl-troed carbon—bob amser yn llygrydd yn y ffordd honno. Felly, y cydbwysedd yr ydym ni'n ei geisio fel Llywodraeth, wrth gwrs, yw hyrwyddo, er enghraifft, moddau trafnidiaeth mwy cynaliadwy, ac rydym ni'n gwneud hynny trwy fetro de Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol fel Caerdydd i wneud hynny. Ond, wrth gwrs, bydd—. Pe byddai'r canllawiau yn cael eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru, mae'n bosibl iawn y gallai hynny greu llawer o broblemau o ran yr economi a swyddi pe na byddem yn ofalus.