10. Dadl: Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Cymru y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017-2018

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:33, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fel mae'r adolygiad yn ei nodi, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, neu dîm Cymru, yn gweithio i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth, polisi a chraffu, ac i ymgorffori cydraddoldeb a hawliau dynol wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn cyfeirio'n helaeth at adroddiad 2018 y Comisiwn 'A yw Cymru'n decach?'. Bedair blynedd ar bymtheg ar ôl datganoli, mae ei ganfyddiadau yn cynnwys: mae tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill Prydain; mai Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU—bod enillion canolrifol yr awr yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban; Mae oedolion yng Nghymru yn adrodd lefelau llawer uwch o iechyd meddwl gwael a lles pobl nag yn Lloegr; bod gan Gymru gyfradd hunanladdiad uwch nag yn Lloegr, gyda dynion dros bedair gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i hunanladdiad na menywod; bod pobl anabl yn cael eu gadael ymhellach ar ôl, gyda thystiolaeth o hyn i'w weld yn y ffaith bod y gwahaniaethau rhyngddynt â phobl nad ydynt yn anabl yn cynyddu yn hytrach nag yn lleihau; o'i gymharu â Lloegr a'r Alban, bod gan Gymru'r disgwyliad oes isaf, yn arbennig ar gyfer pobl anabl, a lefelau uchel o hiliaeth a thrais yn erbyn menywod. Mae ffigurau gan Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn dangos bod un o bob pedwar person sydd bellach yn troi atyn nhw oherwydd trais yn y cartref yn ddynion.

Ochr yn ochr â hyn, canfu'r adroddiad a gyhoeddodd Sefydliad Bevan fis diwethaf ynglŷn â chyfraddau tlodi yng Nghymru bod y gyfradd tlodi incwm gymharol yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, bod cyfran uwch o oedolion o oedran gweithio mewn tlodi yng Nghymru nag yn unrhyw genedl arall yn y DU, a bod cyfradd dlodi pensiynwyr yng Nghymru yn llawer uwch nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU.

Amlygodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol bod gwahaniaeth mawr iawn rhwng cyrhaeddiad dysgwyr anabl, gan gynnwys disgyblion byddar, a'u cyfoedion. Fel y dywed Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru, mae angen ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn. Mae'r Comisiwn hefyd yn crybwyll cyfraddau gwahardd uchel ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Fel y mae'n ei ddweud, gall y canlyniadau hyn fod yn ddifrifol iawn. Fodd bynnag, er bod  dyfarniad llys bellach wedi ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid i ysgolion sicrhau eu bod nhw wedi gwneud addasiadau priodol ar gyfer disgyblion awtistig cyn y gellir eu gwahardd, cysylltodd rhiant arall â mi eto'r wythnos diwethaf yn dweud bod ei mab awtistig wedi cael ei wahardd.

Yn ddamniol iawn, canfu'r comisiwn mai ychydig iawn o dystiolaeth oedd ar gael i archwilio sut mae polisïau Llywodraeth Cymru yn effeithio ar grwpiau penodol, gan mai ychydig iawn o bolisïau sydd wedi cael eu gwerthuso'n gadarn yn ystod y cyfnod dan adolygiad. Mae'n dweud y dylai bod pwyslais clir ar wella bywyd yng Nghymru ar gyfer pobl anabl, gyda Llywodraeth Cymru yn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn llawn i ddeddfwriaeth Cymru.

Fel y dywed Anabledd Cymru, byddai hyn yn rhoi mwy o gyfle i bobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli i lunio a dylanwadu ar bolisïau.

Mae cod ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Rhan 2 yn datgan bod yn rhaid i awdurdodau lleol roi:

'trefniadau cadarn ar waith i sicrhau cyfraniad pobl at gynllunio a gweithredu gwasanaethau' ac

'y bydd llesiant yn cynnwys agweddau allweddol ar fyw’n annibynnol, fel y nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.'

Ond clywaf bron bob dydd gan bobl ag anableddau a gofalwyr sy'n gorfod ymladd am y cymorth sydd ei angen i'w galluogi i fyw bywyd annibynnol, oherwydd nad yw pobl mewn grym eisiau ei rannu, a labelir nhw fel y broblem.

Dywed y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, bod

Deddf Cymru 2017 wedi rhoi'r cyfle i Lywodraeth Cymru weithredu dyletswydd economaidd-gymdeithasol, a fyddai'n sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r prif reswm dros anghydraddoldeb yng Nghymru: tlodi.

Felly, rwy'n cynnig gwelliant 1, gan gyfeirio at argymhelliad y cydbwyllgor i Lywodraeth Cymru amlinellu ei safbwynt ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Yn ei ymateb ym mis Gorffennaf i hynny, dywedodd y Prif Weinidog y byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, a gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar y materion hyn.

Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Cwnsler Cyffredinol ychwanegu at ei sylwadau ynghylch hwn ychydig funudau yn ôl yng nghyd-destun y datganiad hwnnw gan y Prif Weinidog ar weithio gyda Llywodraeth y DU yn ogystal â'r Comisiwn.

Mae ein gwelliant hefyd yn nodi argymhellion allweddol yr adroddiad ynghylch y ddyletswydd gydraddoldeb ar y sector cyhoeddus, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu sut y gellid diwygio'r ddyletswydd fel bod cyrff cyhoeddus yn canolbwyntio ar weithredu i fynd i'r afael â'r heriau allweddol yn yr adroddiad hwn. Rwy'n cynrychioli etholwyr yn rheolaidd ar faterion yn amrywio o fyddardod i awtistiaeth, cymorth mynediad i bobl anabl, ac rwy'n gyson yn gorfod atgoffa cyrff cyhoeddus o'u dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus. Yn rhy aml, mae eu hymateb yn dangos dealltwriaeth echrydus o wael o'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu.

Fel y dywed y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:

Yn 2022 rydym ni eisiau gweld cynnydd sylweddol o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru sy'n arwain at leihad mewn anghydraddoldebau wedi hen ymwreiddio a pharhaus.  

Fel y dywedant,

Rydym ni eisiau i bawb fyw mewn Cymru decach.