Part of the debate – Senedd Cymru am 7:07 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Wel, bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn dweud yn fy araith, er gwaethaf y buddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth, bod mynydd eto i'w ddringo a dyna yw ein safbwynt o hyd. Rydym yn cydnabod, er bod y gwaith yr ydym yn ei wneud yn cael effaith, bod mwy y gallwn ei wneud ac y mae'n rhaid inni ei wneud, ac adlewyrchir hynny, rwy'n credu, yn fy nghyfraniad i ar ddechrau fy sylwadau agoriadol. Nid oes gennym ddarlun clir hyd yn hyn o ba un a yw'r mater ynghylch llochesi o ganlyniad i dangyllido neu oherwydd nad yw'r arian wedi'i gyfeirio at y gwasanaethau sydd â'r effaith fwyaf, ond rydym yn cydnabod yn gyfan gwbl bod angen rhoi sylw brys i'r materion hyn, ac yn wir, bydd y Prif Weinidog, yn gwneud cyhoeddiad ynghylch hyn ar 12 Tachwedd.
Rydym yn cefnogi gwelliant 4. Siaradodd Leanne Wood a John Griffiths ar themâu'r gwelliant hwn. Mae torri cylch amddifadedd a thlodi yn ymrwymiad hirdymor i Lywodraeth Cymru, ac ategir hyn gan ddiwygiadau lles Llywodraeth y DU. Rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir. Mae ein deddfwriaeth tlodi plant, ein cymorth ar gyfer gwaith teg, y contract economaidd newydd a'r cyflog byw go iawn yn tanlinellu ein hymrwymiad i drechu tlodi ac anghydraddoldeb. Er hynny, gwyddom fod angen inni wneud mwy i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol. Ac, fel y dywedais yn fy araith agoriadol, mae swyddogion eisoes wedi eu cyfarwyddo i edrych ar y dewisiadau o ran deddfu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru, rhywbeth y mae nifer o'r Aelodau wedi'i godi yn eu cyfraniadau.
Rydym ni hefyd yn cefnogi gwelliant 5. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud yn glir ein hymrwymiad i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol a gwneud yn siŵr y caiff ei ymgorffori, fel ag y mae, yn neddfwriaeth sefydlol Llywodraeth Cymru ac, yn wir, ym mhob dim yr ydym yn ei wneud, ac er gwaethaf y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â thrafodaethau Brexit. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gwneud darpariaeth benodol mewn cysylltiad â rhwymedigaethau rhyngwladol. Mae Adran 82 yn rhoi pwerau ymyrryd i'r Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gweithredu gan Weinidogion Cymru y mae ef neu hi yn ystyried ei fod yn anghydnaws â rhwymedigaeth o'r fath. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod â pharch mawr tuag at y cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig y mae'r DU wedi'u llofnodi fel parti gwladol. Rydym yn ceisio adlewyrchu naws a sylwedd pob Confensiwn ar draws ein polisïau a'n rhaglenni, fel y bo'n briodol, bob amser.
Rwyf am gau'r ddadl drwy ddiolch unwaith eto i'r Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae'r comisiwn yn gweithio ochr yn ochr â'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anghyfiawnder yng Nghymru. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r comisiwn wedi darparu rhaglen waith unigryw a pherthnasol i adlewyrchu tirwedd wleidyddol, gyfreithiol a chymdeithasol unigryw Cymru. Mae'r comisiwn yn ffrind beirniadol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae yma i'n harwain ni i gyd a sicrhau newid cadarnhaol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol a pharhau â'n perthynas gadarnhaol a chynhyrchiol.