Part of the debate – Senedd Cymru am 7:04 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i Aelodau'r Cynulliad am gymryd rhan yn y ddadl, sydd wedi dangos yn glir pam mae'n bwysig bod y Comisiwn Hawliau Dynol a Chydraddoldeb yn parhau i fod â phresenoldeb cryf ac unigryw yng Nghymru. Dechreuodd y rhan fwyaf o'r cyfraniadau o'r safbwynt bod cymdeithas sy'n seiliedig ar gydraddoldeb a hawliau dynol yn ddiofyn, hyd yn oed os ydym yn mynd ati o safbwyntiau gwahanol mewn rhai achosion. Rwy'n credu y gwnaeth un cyfraniad yn arbennig ein hatgoffa ni ein bod yn gorffwys ar ein rhwyfau wrth gredu y gallwn ni roi'r gorau i gyflwyno achos yn ddyddiol am gymdeithas sy'n seiliedig ar gydraddoldeb a hawliau dynol.
Gwnaed llawer o bwyntiau yn y ddadl. Byddaf yn troi atyn nhw trwy'r gwelliannau, os caf i, ac o ran y sylwadau y mae Julie Morgan newydd eu gwneud ynghylch teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr, byddaf yn cyfeirio'r rheini, os caf, at arweinydd y tŷ i roi'r wybodaeth honno iddi hi.
Gan droi at y gwelliannau, rydym yn cefnogi gwelliant 1. Fel y dywedais yn fy araith agoriadol, rydym yn croesawu argymhellion y comisiwn, yn yr adroddiad blynyddol ac yn 'A Yw Cymru'n Decach?', ac rydym eisoes yn gweithio i gryfhau dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru ac, fel y mae Mark Isherwood, Jane Hutt ac eraill wedi'i godi, i ystyried y dewisiadau o ran deddfu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Rhan 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yng Nghymru, a allai fod yn arf pwerus iawn ar gyfer diwygio ac ar gyfer cydraddoldeb yng Nghymru.
Rydym yn gwrthwynebu gwelliant 2. Nid oeddwn i'n cydnabod rhai o'r sylwadau a wnaed gan Leanne Wood yn y cyd-destun arbennig hwnnw. Roedd y grant byw'n annibynnol i Gymru yn fesur dros dro yn unig i sicrhau dilyniant y gefnogaeth yn ystod y broses o gytuno ar y trefniadau hirdymor ar gyfer cefnogi pobl a gaiff eu heffeithio yn sgil cau cronfa byw'n annibynnol Llywodraeth y DU. Ar ôl ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyhoeddodd y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol ar y pryd yn 2016 y byddai cymorth yn cael ei ddarparu yn y dyfodol, fel y nodwyd, gan wasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol, a darperir cymorth i'r mwyafrif helaeth o bobl anabl yng Nghymru nad ydynt yn gallu cael gafael ar y gronfa byw'n annibynnol. Ers mis Ebrill eleni, felly, mae'r trosglwyddiad llawn gwerth £27 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth y DU wedi'i ddyrannu i awdurdodau lleol ar sail reolaidd i'w galluogi i gefnogi pobl a oedd yn arfer derbyn taliadau o'r gronfa byw'n annibynnol i barhau i fyw yn annibynnol.
Rydym ni hefyd yn gwrthwynebu gwelliant 3. Yn yr un modd â'r gwelliant blaenorol, nid yw, yn fy marn i, yn cydnabod yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud. Rydym yn cydnabod y caiff gwasanaethau trais rhywiol eu disgrifio'n aml fel gwasanaethau sinderela ac, ar yr un pryd, bod dioddefwyr cam-drin domestig yn cael eu troi allan o lochesi oherwydd prinder lleoedd. Er nad oes gennym eto—