Part of the debate – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Mae systemau gwerthuso ac adrodd a sicrwydd mwy cadarn bellach yn cael eu cyflwyno gan y cadeirydd newydd i ddatblygu llywodraethu da ymhellach. Hefyd bu mwy o ymrwymiad a symbyliad i gydweithio gan y bwrdd i gefnogi 'Cymru Iachach' a'r agenda drawsnewid. Roeddwn yn falch o gyhoeddi yr wythnos diwethaf y byddai cymorth ar gael o'r gronfa trawsnewid ar gyfer prosiect gogledd Cymru ar draws y gogledd i helpu pobl ag anableddau dysgu i fyw bywydau mwy annibynnol ac i gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw yn agosach at eu cartrefi. Bydd hynny yn cynnwys rhannu adnoddau, sgiliau ac arbenigedd rhwng y maes iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector.
O ran cyllid, mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod mewn sefyllfa heriol. Fodd bynnag, os bodlonir y cyfanswm rheoli a bennwyd ar gyfer eleni, bydd hynny'n welliant gwirioneddol ar y flwyddyn flaenorol. Nid oes unrhyw amheuaeth gan y bwrdd y bydd cyflawni hyn yn gofyn am gamau penodol dros ran olaf y flwyddyn ariannol hon i gyflawni'r newid sydd ei angen i sicrhau sefydlogrwydd ac i arwain y trawsnewid yn ei gynllun ar gyfer y dyfodol. Cyhoeddais gyllid ychwanegol o £1.7 miliwn ym mis Gorffennaf o dan drefniadau mesurau arbennig i gryfhau capasiti rheoli a gallu dadansoddi yn y tîm gweithredu.
Disgwyliad allweddol o'r fframwaith gwella oedd fod y Bwrdd yn ymateb yn brydlon ac yn briodol i ganfyddiadau ymchwiliad Y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol—HASCAS, ac argymhellion adolygiad llywodraethu Ockenden. Rwy'n fodlon bod y cynlluniau y mae'r Bwrdd Iechyd wedi eu rhoi ar waith i weithredu'r argymhellion, o ran iechyd meddwl ac yn ehangach, yn gynhwysfawr ac yn gadarn, gydag arweinwyr gweithredol wedi eu dynodi i'w dwyn i gyfrif.
Fy mhwyslais nawr yw sicrhau bod cynnydd cyflym o ran gweithredu'r cynlluniau hyn. Rydym ni eisoes yn gwirio'r cynnydd a nodwyd hyd yma gan Betsi Cadwaladr yn eu hadroddiadau rheolaidd, a chydnabyddir hynny gan staff rheng flaen ym maes iechyd meddwl, ac mae hynny'n ychwanegol at raglen arolygu Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sydd hefyd yn adrodd ar gynnydd. Mae gwelliannau hyd yn hyn yn cynnwys cadarnhau tîm uwch reoli newydd a gweladwy, penodi cyfarwyddwr nyrsio iechyd meddwl newydd, creu arweinwyr gwrando ar draws staff rheng flaen a lansio'r dull 'Heddiw gallaf'. At hynny, erbyn hyn, crëwyd grŵp rhanddeiliaid mwy i bwyso a mesur y gwelliannau a wnaed, ac rwy'n falch bod rhai aelodau sy'n weddill o deuluoedd Tawel Fan wedi cytuno i fod yn rhan o'r grŵp hwn, ynghyd â'r cyngor iechyd cymuned a rhanddeiliaid eraill.
Yn ddiweddar, fe wnes i gwrdd â nifer o deuluoedd Tawel Fan, pan gyfarfûm â nhw yr wythnos diwethaf. Rwy'n deall yn glir iawn nad yw nifer fechan o deuluoedd yn fodlon gyda phroses na chanlyniad ymchwiliad HASCAS. Fodd bynnag, cafwyd consensws ynglŷn â'r angen i sicrhau y paratoir adroddiadau a chynlluniau gweithredu y bwrdd iechyd a'u bod yn arwain at welliannau cynaliadwy ac ystyrlon yn y gwasanaeth iechyd meddwl ac o ran gofalu am bobl sydd â dementia yn yr amrywiol wasanaethau. Mae fy swyddogion wedi bod yn glir iawn gyda'r bwrdd iechyd bod angen iddo sicrhau ei fod yn cyfathrebu cynlluniau a chamau gweithredu yn effeithiol i bob aelod o staff.
Bu pwyslais datblygiadau ym maes iechyd meddwl hyd yma ar welliannau uniongyrchol i wasanaethau cleifion mewnol, gan gynnwys gwaith amgylcheddol. Mae'r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio i asesu a gwella gwasanaethau yn y gymuned drwy weithredu ei strategaeth iechyd meddwl, yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, y trydydd sector, defnyddwyr gwasanaeth a'r heddlu i ddarparu cynlluniau gweithredu lleol. Pwyslais allweddol ar gyfer y chwe mis nesaf fydd gwella a chynnal perfformiad o ran Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 a thargedau gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc. I gefnogi'r gwaith hwn, mae'r uned gyflawni yn adolygu galw a chapasiti ac mae fy swyddogion yn trafod pa gymorth pellach y gellid bod ei angen yn y maes hwn i ailgydbwyso capasiti a galw.
Mae gwelliannau'n parhau o ran ymgysylltu a chynnwys staff, a dengys canlyniadau arolwg staff y GIG yn 2018 y bu newidiadau cadarnhaol ers 2013 a 2016, yn enwedig o ran ymgysylltu â staff. Mae hynny'n cynnwys cynnydd o 18 y cant ers 2013 mewn staff sy'n dweud eu bod yn awr yn falch o weithio i fwrdd Betsi Cadwaladr.
O ran y maes cynllunio strategol a chynllunio gwasanaethau, gan gynnwys perfformiad, mae angen ymdrech mwy penodol a gweithredu cynt. Bu cynnydd mewn strategaethau arbenigol unigol gyda'r ganolfan is-ranbarthol gofal dwys newyddenedigol—a adwaenir fel SuRNICC—a cynlluniau ymyrraeth drwy'r croen sylfaenol wedi eu gweithredu, a'r cynllun llawdriniaeth fasgwlaidd yn mynd rhagddo. Mae'r cynlluniau hyn yn cynyddu llwyddiant recriwtio ac yn darparu gwasanaethau arbenigol yng ngogledd Cymru ar gyfer pobl gogledd Cymru. Mae angen gwneud cynnydd pellach, system gyfan, mewn meysydd eraill, gan gynnwys orthopaedeg, a'i ddisgrifio yn fwy eglur yn ei gynlluniau ar gyfer trawsnewid a gwella gwasanaethau.
Mewn gofal sylfaenol, bydd y cyfarwyddwr gweithredol newydd yn rhoi pwyslais cynyddol ar sicrhau gwelliannau pellach, gan gydweithio â chlystyrau. Mae gwaith yn parhau i wella gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau ac mae perfformiad y bwrdd iechyd bellach yn fwy tebyg i weddill Cymru. Uchelgais y bwrdd iechyd yn awr yw trawsnewid y model gwasanaeth fel ei fod yn addas at y diben ac yn gynaliadwy.
Yn y datganiad hwn, rwyf wedi nodi meysydd ble bu gynnydd ond hefyd wedi amlinellu'r anawsterau sylweddol sy'n parhau. Rwy'n benderfynol na chaiff mesurau arbennig fod yn ddatrysiad annigonol i broblem, ond eu bod yn darparu gwelliant cynaliadwy ac yn creu'r capasiti a'r gallu sydd eu hangen ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hwy. Yn ystod y chwe mis nesaf, bydd angen i'r bwrdd iechyd ganolbwyntio ar gyllid ac ar gynllunio strategol a chynllunio gwasanaeth, yn enwedig mewn gofal heb ei drefnu ac atgyfeirio i driniaeth, ac i gyflawni argymhellion adroddiadau llywodraethu HASCAS ac Ockenden.
Mae'r cadeirydd a'r bwrdd yn glir o ran y gwaith sydd ei angen ac yn ymrwymedig i wneud cynnydd. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â nhw i ddarparu'r cymorth angenrheidiol, a gobeithiaf y bydd partneriaid rhanbarthol a rhanddeiliaid allweddol hefyd yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal gwell a chynaliadwy i bobl gogledd Cymru.