Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Mae cyllid yn parhau i fod yn bryder mawr gyda chyfanswm rheoli diffyg o £35 miliwn wedi ei osod. Ni fyddai hynny ynddo'i hun yn arwydd arwyddocaol o lwyddiant, oherwydd llwyddiant yw byw o fewn y gyllideb, ac rwyf wedi bod yn glir iawn ynghylch hynny ers fy mhenodi. Ond rydym ni eisiau gosod targedau gwella realistig i gyrraedd y cyfanswm rheoli hwnnw ac wedyn symud ymlaen i fod yn gallu byw o fewn eu modd yn y dyfodol. Dyna pam mae angen cyflymu'r trawsnewid. Mae hynny'n aml ynglŷn â'r gwelliant tymor byr i'r tymor canolig cyn y trawsnewid tymor hirach a'r tymor canolig, ond dyna hefyd pam bydd yr uned gyflawni cyllid yn parhau i weithio ochr yn ochr â'r tîm cyllid yn y bwrdd iechyd i geisio gwneud yn siŵr bod llwyddiant gwirioneddol o ran cyflawni'r arbedion hynny. Dyna pam rydym ni wedi rhoi cymorth tymor byr i'r bwrdd iechyd. Bydd gwneud ymrwymiadau ariannu rheolaidd i fyrddau iechyd, fel y mae angen inni ei wneud, ond byddwn yn gwneud buddsoddiad ychwanegol sylweddol i helpu'r bwrdd iechyd hwn drwy fesurau arbennig.
O ran eiriolaeth, rwyf wedi bwriadu ysgrifennu atoch, a byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn gwneud hynny, oherwydd rwy'n cydnabod eich bod wedi crybwyll hyn yn y Siambr o'r blaen, felly does arnaf i ddim eisiau osgoi ymdrin â hynny.
O ran teuluoedd Tawel Fan, mae'r teuluoedd sy'n weddill yn fychan mewn nifer ond mae ganddyn nhw heriau sylweddol ac anfodlonrwydd sylweddol am y broses fel y maen nhw wedi gweld hynny a chanlyniadau'r adroddiad. Nid ydynt yn cytuno nac yn derbyn holl ganlyniadau'r ymchwil ynglŷn â'r gofal a gafodd eu hanwyliaid. Nid yw'r mwyafrif helaeth o deuluoedd sy'n rhan o ymchwiliad HASCAS wedi cysylltu â ni ac maen nhw'n dal yn anhapus ac yn anfodlon ar y broses neu'r canlyniad. Nid yw hynny'n golygu na fyddwn ni o ddifrif am bryderon y teuluoedd sy'n weddill. Dyna pam, yn ystod yr hanner tymor, yr oeddwn yn y gogledd ar gyfer cyfarfod gyda'r nos a barhaodd llawer yn hwy nag a gynlluniwyd yn wreiddiol oherwydd roedd hi'n bwysig rhoi cyfle llawn iddynt fynegi eu pryderon yn hytrach na finnau'n canu'r gloch ar ôl cyfnod penodol o amser a dweud, 'rwy'n gadael'. Byddai hynny wedi bod y peth anghywir i'w wneud yn llwyr.
Yn y cyfarfod hwnnw, roedd y cais am ymchwiliad gan y Cynulliad ymhell o fod yn unfrydol. Gofynnodd rywun am hynny, roedd rhywfaint o gefnogaeth yn yr ystafell i'r cais hwnnw, ond dywedodd pobl eraill yn glir nad oeddent eisiau ymchwiliad arall eto. Lle'r Cynulliad, fodd bynnag, yw penderfynu os yw hi eisiau cynnal ymchwiliad arall; nid lle'r Llywodraeth yw dweud y dylai'r Cynulliad ymchwilio. Rwyf wedi ei gwneud hi'n glir mai cyfrifoldeb y Llywodraeth yw gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud yr hyn y gallem ni ac y dylem ni ei wneud, a bod y bwrdd iechyd yn cael ei ddwyn i gyfrif am yr hyn y gallai ac y dylai ei wneud i weithredu ar argymhellion ymchwiliad HASCAS. Mae'r cynllun sydd ganddyn nhw i wneud hynny yn un credadwy; yr her yw bod angen iddyn nhw ei gyflawni. Mae'r cynllun yn edrych fel yr un cywir, ond mae angen iddyn nhw ei gyflawni ac mae angen iddynt wneud hynny mewn ffordd sy'n ennyn hyder, a dyna pam mae grŵp rhanddeiliaid yn bodoli. Dyna pam ei bod hi'n bwysig bod yna rai o gynrychiolwyr teuluoedd Tawel Fan ar y grŵp hwnnw hefyd. Felly, nid grŵp i ganu clodydd y Bwrdd Iechyd mohono— bydd yna graffu gwirioneddol.
O ran eich sylw ehangach ynglŷn â hyder cleifion, wel, os ysgrifennir yn rheolaidd am y Bwrdd Iechyd mewn modd nad yw'n ennyn hyder cleifion, does fawr o syndod fod pobl yn pryderu. A gyda bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, ni fyddai hi'n syndod mawr imi fod hyder cleifion yn y rhan honno o'r wlad yn wahanol, dyweder, i rannau eraill o'r wlad. Fodd bynnag, nid wyf yn derbyn eich datganiad fod y system gwynion yn ddiffygiol. Mae gan y system gwynion ôl-groniad sylweddol, ond, mewn gwirionedd, mae arweinyddiaeth y cyfarwyddwr nyrsio yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r system gwynion. Mae'n bwysig dysgu o gamgymeriadau, ond hefyd i sicrhau'r gwelliant sydd ei angen. Ac, mewn gwirionedd, nid oes angen ichi ddibynnu ar fy ngair i fod y system wedi gwella—mae'r ombwdsmon mewn gwirionedd wedi gwneud sylwadau ei fod yn cydnabod bod gwelliant gwirioneddol wedi ei wneud, ond mae hefyd wedi nodi bod angen i hynny barhau ac nad yw pethau yn berffaith fel y maen nhw yn awr.
O ran y dewis ynglŷn â'r ganolfan gofal dwys newyddenedigol isranbarthol, roedd yn benderfyniad a wnaeth y Prif Weinidog gyda buddsoddiad cyfalaf sylweddol, a roedd yn seiliedig ar adolygiad ar sail tystiolaeth gan y Coleg Brenhinol. Mae yna bobl yn yr ystafell hon a fu'n ymgyrchu am adolygiad pellach o'r penderfyniad cychwynnol, ac fe wnaethom ni hynny drwy edrych ar dystiolaeth. Dyna oedd y peth cywir i'w wneud, ac, mewn gwirionedd, dim ond pan ddanfonwyd yr uned, a'i fod yn barod ac yn agored, fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr, roedd staff yn credu y byddai'n sicr yn digwydd. Mae'n gam cadarnhaol iawn. Credaf fod y Llywodraeth wedi gwrando, gwrando ar y dystiolaeth a bellach mae gennym ni gyfleuster newydd yn y gogledd ar gyfer pobl y gogledd. Ynglŷn â'r cynllun orthopedig y cyfeirioch chi ato, nid yw'n wir dweud y bu'r Bwrdd Iechyd yn aros am flynyddoedd am ymateb gan y Llywodraeth. Rhan o'n her fu cael cytundeb ymhlith maes clinigol y gogledd ynglŷn â beth i'w wneud rhwng eu hunain yn ogystal â'r bwrdd iechyd sy'n eu cyflogi, ond, yn yr un modd, i gael cynllun a all nid yn unig cyflawni gweithgarwch mwy, ond mewn gwirionedd, un sy'n bodloni'r galw a'r capasiti sy'n bodoli bellach, heb sôn am yn y dyfodol. Ni ellir disgwyl i'r Llywodraeth hon neu unrhyw un arall wario symiau sylweddol o arian i beidio â bodloni'r galw yn y system. Felly, mae'n rhaid iddyn nhw gael cynllun y mae modd ei gymeradwyo yn y lle cyntaf, ac yna bydd gan y Llywodraeth ddewis ynghylch a yw refeniw neu arian cyfalaf ar gael. Ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl briodol a'r hyn y dylai unrhyw Weinidog o unrhyw Lywodraeth ei ddisgwyl gan y gwasanaeth. Ond nid ydym yn ofni buddsoddi cyfalaf yn y gogledd i ddarparu gwasanaeth gwell.
A daw hynny â mi at y cynigion ynglŷn â'r Royal Alexandra a gyflwynwyd o'r diwedd i'r bwrdd yr wythnos diwethaf, ac sydd wedi'u cymeradwyo gan y bwrdd. Byddant bellach yn dod i fwrdd buddsoddi Llywodraeth Cymru ac yna bydd gennyf ddewis i'w wneud ac rwy'n benderfynol o wneud penderfyniad cynnar. Gallaf ddweud wrthych chi mai'r eiriolwr a'r lobïydd mwyaf effeithiol, a'r llais mwyaf miniog y byddai'n dda ichi wrando arno ar y mater hwn, wrth gwrs, yw'r Aelod lleol, sy'n digwydd bod yn eistedd yn y gadair ar hyn o bryd. Byddaf yn gwneud y dewis cywir ar gyfer y gwasanaeth, ac rwy'n gwybod y caf i fy mhrofi'n rheolaidd gan yr Aelod lleol.