8. Dadl: Egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:20, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Gan droi yn gyntaf at adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, rwy'n falch bod y pwyllgor wedi argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Er bod rhywfaint o anghytuno ar faterion penodol y manylion, rwy'n croesawu casgliad y pwyllgor ynghylch yr angen i ddeddfu. Mae argymhelliad 2 yn ceisio gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Rhentu Doeth Cymru i roi gwybod i denantiaid, landlordiaid ac asiantau am ddarpariaethau'r Bil. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Bil gan y Cynulliad, byddwn yn cynnal rhaglen gyfathrebu sylweddol a fydd yn cynnwys awdurdodau lleol, Rhentu Doeth Cymru a'r trydydd sector, yn ogystal â chyfathrebu mwy cyffredinol yn targedu cynulleidfa eang.

Roedd y ddyletswydd i roi gwybod yn Neddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 yn adlewyrchu'r ffaith bod cynulleidfa'r Ddeddf honno yn hawdd ei hadnabod ac yn unigryw. Mae cynulleidfa'r Bil hwn yn ehangach o lawer, gan gynnwys unrhyw un a all fod yn ystyried rhentu, yn ogystal â'r rhai sy'n gwneud hynny eisoes, felly strategaeth gyfathrebu fwy cyffredinol sy'n fwy priodol. Er fy mod i'n ymrwymo'n fodlon i ymgymryd â rhaglen gyfathrebu effeithiol a chynhwysfawr ynghylch y Bil, mae'n rhaid imi wrthod yr argymhelliad.

Fodd bynnag, rwy'n cefnogi argymhelliad 3 sy'n nodi y dylai Rhentu Doeth Cymru fod â phwerau gorfodi ochr yn ochr ag awdurdodau lleol. Gan mai Rhentu Doeth Cymru yw'r awdurdod trwyddedu o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, byddai'n bosibl cyflawni hyn o dan drefniadau arfaethedig presennol, trwy ddefnyddio pŵer presennol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae hyn yn galluogi awdurdod lleol i gytuno y dylai awdurdod lleol arall gyflawni swyddogaeth ar ei ran. Fodd bynnag, gan fod Deddf 2014 yn darparu ar gyfer corff nad yw'n awdurdod lleol i gael ei ddynodi, rwy'n cydnabod y bydd yr argymhelliad yn helpu i ddiogelu'r Bil yn y dyfodol, ac yn gwneud camau gorfodi yn fwy effeithlon. Felly, byddaf yn ystyried cyflwyno gwelliant i ddarparu ar gyfer rhoi pwerau gorfodi i'r awdurdod trwyddedu yng Nghyfnod 3, pan fydd y manylion wedi'u hystyried yn llawn.

Mae'n ddrwg gen i na fydd modd cytuno ar y gwelliant penodol a gynigir yn argymhelliad 4, ond rwyf yn cydnabod pryder y pwyllgor ynghylch taliadau diofyn, er fy mod i o'r farn y gall fod yn anoddach gweithredu'r argymhelliad nag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf. Fodd bynnag, o ystyried y pryderon dealladwy hynny, rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i adolygu sut y gallai'r Bil geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fy syniadau yn y maes hwn, ac os byddai gwelliant yn helpu, byddaf yn ystyried cyflwyno un yng Nghyfnod 3.

Rwy'n falch o dderbyn argymhelliad 5, a byddaf yn cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i drin taliadau ar gyfer cyfleustodau, y dreth gyngor, gwasanaethau cyfathrebu a'r drwydded teledu fel taliadau a ganiateir.

Rwy'n derbyn mewn egwyddor argymhelliad 6 ynghylch ffioedd ymadael. Fodd bynnag, rwy'n dymuno archwilio'r opsiynau i fynd i'r afael â'r mater hwn, a byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor yn dilyn y trafodaethau hynny.

Nid wyf wedi fy argyhoeddi i dderbyn argymhelliad 7, gan nad yw'r Bil yn caniatáu i fwy nag un blaendal cadw gael ei gymryd ar unrhyw adeg. Mae gan unigolyn sy'n talu blaendal cadw yr hawl cynnig cyntaf a, phan fo hyn wedi'i dalu, mae'n golygu bod yn rhaid rhoi contract i ddeiliad y contract. Yn y pen draw, os bydd materion yn codi, ceir pŵer yn y Bil eisoes i ddiwygio diffiniad taliadau a ganiateir. Fodd bynnag, nid wyf wedi fy argyhoeddi, ar sail yr ymchwil sydd ar gael i ni, bod digon o dystiolaeth i newid y Bil ar hyn o bryd.

O ran argymhelliad 8, rwy'n cydnabod anniddigrwydd yr Aelodau o ran y ddarpariaeth ym mharagraff 7 o Atodlen 2 i'r Bil sy'n ymwneud â'r hawl i rentu o dan Ddeddf Mewnfudo 2014. Felly, rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad a hepgor y paragraff am y rheswm nad yw'r darpariaethau perthnasol yn Neddf 2014 wedi dod i rym yng Nghymru eto. Fodd bynnag, os bydd Llywodraeth y DU yn dod â darpariaethau perthnasol Deddf 2014 i rym, gallen nhw ddiwygio Atodlen 2 er mwyn gwneud y ddarpariaeth.

Mae camau gorfodi'r Bil wedi bod yn ystyriaeth allweddol wrth graffu arno, ac rwy'n bwriadu mynd i'r afael â hyn trwy dderbyn argymhellion 9 a 10. Mae hyn yn golygu y bydd landlord wedi'i atal rhag cyflwyno rhybudd o dan adran 173 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a elwir yn hysbysiad adran 21 ar hyn o bryd, os bydd landlord wedi gofyn am daliad gwaharddedig a dalwyd ac na ddychwelyd, neu os nad fydd blaendal cadw wedi'i ad-dalu.

Byddaf hefyd yn cyflwyno gwelliant i ddyblu'r swm o hysbysiad cosb benodedig i £1,000. Bydd hyn yn cryfhau rhan bwysig o'r drefn orfodi, ond yn ei gadw ar lefel a fydd yn caniatáu i'r hysbysiad cosb benodedig barhau i fod yn arf gorfodi cyflym ac effeithiol yn unol â'i fwriad, ac yn adlewyrchu ei swyddogaeth yn rhan o'r drefn orfodi ehangach.

O ran argymhelliad 11, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion barhau i ystyried creu dull o haenau neu fandiau wrth gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig, ac, unwaith eto, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor pan fydd y gwaith hwnnw wedi dod i ben.

Ni allaf dderbyn argymhelliad 12, oherwydd byddai'n dyblygu'r pwerau sydd eisoes ar gael o dan adran 36 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a byddwn i'n dadlau bod hyn yn ymdrin â phryderon y pwyllgor.

Byddai argymhellion 13 a 14, yn fy marn i, yn cymhlethu'r Bil yn ddiangen a byddai'n tanseilio ein dull gorfodi, felly mae'n rhaid imi wrthod y ddau.

Fodd bynnag, rwyf yn fodlon derbyn argymhelliad 15, a fydd yn sicrhau ein bod yn monitro effaith y Bil ar y farchnad rhentu i fyfyriwr.

Gan droi at adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, o ran ei argymhelliad cyntaf, rwyf yn hapus i fanteisio ar y cyfle hwn i gadarnhau fy mod i'n fodlon bod y Bil yn ymwneud â thai ac nad yw'n cysylltu ag unrhyw fater a gadwyd yn ôl. Nid yw'n arfer safonol i Lywodraeth Cymru ddarparu dadansoddiadau manwl o gymhwysedd, boed yn y pwyllgor neu yn ystod dadl ar egwyddorion cyffredinol. Pan fo manylion wedi'u darparu, maent yn adlewyrchu amgylchiadau unigryw, ac nid yw'r rhain yn berthnasol i'r Bil hwn.

Mae argymhelliad 2 yn gwneud pwynt ehangach ynghylch gwybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol yn y memoranda esboniadol. Gwn fod y pwyllgor wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch y mater hwn, a bydd ymateb ar gael cyn bo hir.

O ran argymhelliad 3, rwy'n falch bod y Bil wedi gallu treialu ein dull newydd o integreiddio asesiadau effaith, gan atgyfnerthu'r gyfres bresennol o asesiadau effaith mewn un ddogfen. Mae'r broses newydd yn cyflawni dyletswyddau statudol presennol sy'n gysylltiedig ag asesiadau effaith ac yn dwyn ynghyd amrywiaeth o asesiadau effaith mewn fframwaith mwy cydlynol. Mae hyn yn lleihau cymhlethdod a dyblygu, ac felly dylai gynorthwyo'r darllenydd.

O ran argymhelliad 4, gwn fod y pwyllgor wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch y mater hwn, a bydd yn ymateb ar ran Llywodraeth Cymru yn fuan. O ran y Bil hwn, gallaf gadarnhau y bydd dolen i'r ddogfen porth asesiadau effaith yn cael ei hychwanegu at y memorandwm esboniadol.

Rwyf hefyd yn hapus i egluro'r datganiadau a wnaed yn y memorandwm esboniadol a'r ddogfen porth asesiadau effaith o ran materion preifatrwydd. Bydd y ddau yn cael eu diwygio i dynnu sylw at y faith y bydd goblygiadau o ran preifatrwydd ar gyfer awdurdod tai lleol wrth ymchwilio i droseddau a rhoi gwybod i Rhentu Doeth Cymru am drosedd. Byddaf yn sicrhau bod asesiad o effaith y Bil ar breifatrwydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r ddogfen porth asesiadau effaith. Hefyd, bydd y memorandwm esboniadol yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu'n well y dull a gaiff ei ddefnyddio wrth ymgynghori ar is-ddeddfwriaeth.

Gallaf gadarnhau y byddaf yn cyflwyno gwelliannau i'r Bil i wneud y rheoliadau o dan Atodlen 1, paragraff 2(4) a pharagraff 6 o'r Bil yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Fodd bynnag, ni allaf gytuno ag argymhellion y pwyllgor y dylai'r rheoliadau o dan adrannau 7 a 13 ddilyn y weithdrefn uwchgadarnhaol. Rwyf yn ystyried bod hyn yn ddiangen, gan y bydd digon o waith craffu ac ymgynghori yn cael ei ddarparu trwy'r weithdrefn gadarnhaol.

Yn yr un modd, mae'n rhaid imi wrthod argymhelliad 12, sy'n cynnig y dylai rheoliadau o dan adran 18 ddilyn y weithdrefn gadarnhaol. Mae'r newid hwnnw yn ddiangen, o gofio y gall y rheoliadau ddim ond ymdrin yn benodol â'r materion hynny a nodir yn yr adran, sydd i bob pwrpas yn cyfyngu ar ddisgresiwn ynghylch cynnwys y rheoliadau hynny.

Yn olaf, croesawaf ganfyddiadau'r Pwyllgor Cyllid, yn arbennig y ffaith ei fod yn croesawu defnyddio dadansoddiad sensitifrwydd y memorandwm esboniadol. Mae dau argymhelliad y pwyllgor yn cyd-fynd â fy syniadau i ynghylch sut y byddwn yn asesu effaith y Bil. Edrychaf ymlaen at barhau â'r ddadl ar y Bil, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn cefnogi ei egwyddorion cyffredinol. Diolch yn fawr.