8. Dadl: Egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:36, 6 Tachwedd 2018

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn i gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 yma, er mwyn amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â goblygiadau ariannol y Bil rhentu cartrefi.

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn cytuno bod y darpariaethau yn angenrheidiol ar gyfer cynnal sector rhentu preifat hygyrch a fforddiadwy yng Nghymru. Fodd bynnag, hoffem ddwyn sylw'r Cynulliad at yr amrywiadau sydd i'w gweld yn y ffigurau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol o ran amcangyfrif y costau neu'r buddion a allai godi wrth weithredu darpariaethau'r Bil.

Datblygodd Llywodraeth Cymru ei ddadansoddiad drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Rhentu Doeth Cymru, a chafodd y dadansoddiad hwn ei lywio hefyd gan ymarfer ymgynghori, gan ymchwil annibynnol a'r profiad a gafwyd, wrth gwrs, o weithredu deddfwriaeth debyg yn yr Alban. Serch hynny, dywedodd y Gweinidog wrthym ni y bu angen gwneud nifer o ragdybiaethau yn sgil y gwahaniaethau ymarferol sylweddol sy'n bodoli ar draws y sector rhentu preifat. O ystyried yr ansicrwydd sydd ynghlwm wrth yr amcangyfrif craidd a gyflwynwyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad sensitifrwydd er mwyn profi effaith unrhyw newidiadau i'r rhagdybiaethau allweddol hyn.

Mae'r cam o gynnwys y dadansoddiad sensitifrwydd, sy'n archwilio amrediad y costau posibl yn y senarios gorau a'r senarios gwaethaf, yn un y mae'r Pwyllgor yn ei groesawu'n fawr, a hynny er ei fod yn dangos amrediad eang o gostau. Er enghraifft, mae'r opsiwn 'gwneud dim byd' yn cyflwyno amrediad cost o £36 miliwn rhwng yr amcangyfrifon is a'r amcangyfrifon uwch ar gyfer ffioedd tenantiaid dros gyfnod o bum mlynedd. Er ein bod yn nodi'r arbedion a amcangyfrifir i denantiaid o wahardd ffioedd, rŷm ni yn ymwybodol y bydd asiantau gosod a landlordiaid yn adennill yr incwm coll hwn drwy ddulliau eraill, ac rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn adolygu'n ofalus effaith gweithredu'r Bil ar lefelau rhent. 

Mae ein hargymhelliad olaf yn ymwneud â chostau awdurdodau lleol, ac yn benodol costau gorfodi, a fydd yn ganolog i lwyddiant y Bil. Rŷm ni'n nodi'r ffaith bod y Gweinidog yn rhagweld lefel uchel o gydymffurfiaeth, ac rŷm ni'n cydnabod y bydd awdurdodau lleol yn gallu cadw'r incwm a gesglir drwy hysbysiadau cosb benodedig i wrthbwyso costau gorfodaeth. Fodd bynnag, rŷm ni yn parhau i bryderu am y posibilrwydd na fydd y gweithgareddau gorfodi yn niwtral o ran cost i awdurdodau lleol, a'r posibilrwydd y bydd lefelau rhent uwch yn effeithio ar allu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o ran atal digartrefedd drwy denantiaeth yn y sector rhentu preifat. Rydym wedi argymell, felly, bod effaith ariannol y Bil ar awdurdodau lleol, yn enwedig o safbwynt costau gorfodi, yn cael ei monitro a'i gwerthuso'n ofalus er mwyn sicrhau bod adnoddau digonol ar gael.