8. Dadl: Egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 6 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:16, 6 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn sicr yn ystyried yr awgrymiadau a wnaed, ond dydw i ddim eisiau gwneud y drefn orfodi yn fwy beichus nag sydd raid, oherwydd rydym wedi dysgu o Rhentu Doeth Cymru mai symlrwydd y drefn orfodi sydd wedi ei gwneud mor llwyddiannus, ac, wrth gwrs, fel y nododd Llyr yn ei gyfraniad, rydym mewn gwirionedd yn disgwyl lefelau uchel iawn o gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon. Ond wrth gwrs byddaf yn ystyried yr holl bwyntiau a godwyd yn y ddadl hon.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Julie Morgan a Dawn Bowden am godi mater adran 21. Er ein bod ni wedi ymroi'n llwyr i weithio gyda landlordiaid i ddatblygu sector rhentu preifat bywiog, ni all hyn fod ar draul tenantiaid, ac mae'r modd y mae rhai landlordiaid yn defnyddio hysbysiadau adran 21, yn gwbl briodol, yn peri pryder i ni. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Julie Morgan am drefnu cyfarfod gyda mi, Dawn Bowden a Shelter i drafod y pryderon ynghylch adran 21, ac, o ganlyniad i hwnnw, mae swyddogion wedi bod yn trafod ffyrdd posibl ymlaen gyda'r rhanddeiliaid perthnasol yn y sector. Credaf y byddai'n ddefnyddiol bellach pe byddem yn ailymgynnull y cyfarfod hwnnw i ystyried lle'r ydym wedi cyrraedd a pha gamau i'w cymryd nesaf.

Gwnaed sawl cyfeiriad at y ddeddfwriaeth a oedd yn cael ei datblygu yn Lloegr ac yn yr Alban, a gallaf gadarnhau, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n llawn â phartneriaid mewn gweinyddiaethau eraill, gyda'r bwriad o ddysgu o'u dulliau nhw. Yn sicr, gan fod yr Alban eisoes wedi deddfu yn y maes hwn, rydym yn edrych ar yr effeithiau a welsant hwy o ran y ddeddfwriaeth, ond hefyd yn edrych ar y dystiolaeth a gafodd Lloegr, a'u dull nhw o weithredu yn y fan honno.

Un gwahaniaeth pwysig, fodd bynnag, yw bod gennym Rhentu Doeth Cymru yn gorff gorfodi yng Nghymru. Mae'n rhaid i bob landlord ac asiant gosod tai gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, ac mae'r ffaith y gallai landlord neu asiant gosod tai golli eu trwydded a'u gallu i rentu'r eiddo hynny yn rhwystr enfawr. Mae hynny'n rhwystr sydd gennym ni yng Nghymru ond nad oes ganddyn nhw yn Lloegr, a chredaf fod hynny'n rhoi cyd-destun gwahanol ar gyfer y ddeddfwriaeth yr ydym ni'n ei datblygu yma.

Rwyf wedi bod yn falch o dderbyn nifer o argymhellion y pwyllgor, er enghraifft, yr argymhelliad i gynyddu'r hysbysiad cosb benodedig. Felly, rwy'n cynnig ei ddyblu. Rwy'n cydnabod y galwadau i fabwysiadu dull tebyg i'r dirwyon a godir yn Lloegr, ond, unwaith eto, mae angen inni adlewyrchu bod gennym ni system wahanol a rhwystrau gwahanol a chryfach yma yng Nghymru hefyd. Hefyd, rwyf wedi bod yn hapus i dderbyn yr argymhelliad hwnnw fod gan Rhentu Doeth Cymru bwerau gorfodi hefyd, ac i roi ystyriaeth bellach i'r dull â bandiau neu haenau, ond, yn yr un modd, ar yr un pryd, rwy'n awyddus i gynnal rhywfaint o symlrwydd. Ond cawn drafodaethau pellach am hynny hefyd.

Rwyf eisiau cydnabod y pwynt a wnaeth Llyr am bwysigrwydd y sector rhentu preifat o ran bod yn bartner pwysig i awdurdodau lleol wrth geisio cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Tai, o ran atal digartrefedd a lliniaru digartrefedd. Mae hyn yn sicr yn rhan o'r darn ehangach o waith yr wyf yn ei wneud i archwilio sut y gallwn wella'r berthynas honno a lleihau a dileu'r rhwystrau hynny i ddefnyddio'r sector rhentu preifat yng Nghymru.

Rwy'n ddiolchgar i Dawn am ei sylwadau ar y broblem rhyw am rent. Mae hwn yn sicr yn rhywbeth yr ydym yn awyddus i fynd i'r afael ag ef yng Nghymru. Mae angen iddo fod yn rhywbeth yr eir i'r afael ag ef ar draws gweinyddiaethau, ond yn sicr o fewn ein pwerau ni gallwn ddiwygio'r cod ymarfer ar gyfer landlordiaid i'w gwneud yn gwbl glir bod unrhyw un sy'n hysbysebu eiddo ar osod ac yn gofyn am ryw mewn perygl o golli ei drwydded i weithredu yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae hyn ar ben y gwaith yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod pobl sydd wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru wedi pasio prawf person addas a phriodol, ac mae hynny'n cynnwys ond nid yn gyfyngedig i sicrhau nad oes ganddyn nhw unrhyw euogfarnau heb eu disbyddu am droseddau perthnasol fel troseddau treisgar, twyll neu droseddau rhywiol, er enghraifft. Felly, mae yna sawl darn o waith ar y gweill sy'n gysylltiedig â'r Bil hwn.

Gallaf weld bod fy amser i wedi dod i ben. Ond roeddwn eisiau achub ar y cyfle hwn i groesawu Leanne Wood i'w swyddogaeth newydd a hefyd i gofnodi fy niolch i Bethan am y gwaith a wnaeth hi ar y Bil hwn hyd yn hyn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Leanne yn y portffolio penodol hwn.