Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Wel, rwy'n credu bod y prif weithredwr wrthi'n ymgynghori â staff ar yr ymarfer ailstrwythuro hwnnw ar hyn o bryd, fel rhan o'r rhaglen honno, maent yn edrych ar—fel rwy’n dweud, yn ymgynghori ar—y strwythur. Rhaid inni fod yn rhan ffurfiol o'r ymgynghoriad hwnnw. Ond fel y dywedwch, rwy'n credu mai nawr yw’r amser, onid e, mewn ateb i’r cwestiwn ynglŷn â phryd y byddaf yn gwneud rhywbeth am y peth yn y ffordd rydych chi ei eisiau? Rwy’n sicr yn meddwl bod angen inni edrych ar hynny yn llawer mwy difrifol yn awr.