Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Mae bron i draean o ffermwyr Cymru yn siarad Cymraeg, sydd 50 y cant yn uwch na chyfartaledd yr holl siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae’r sector amaethyddol a theuluoedd amaethyddol yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r iaith ac yn diogelu’r Gymraeg yn ein cymunedau gwledig ni. Felly, mae’r cynigion yn y ddogfen ymgynghori, ‘Brexit a’n tir’, sydd yn cynnig rhoi’r gorau i daliadau uniongyrchol i ffermwyr wedi Brexit, yn bygwth tanseilio hyfywedd amaethyddiaeth yng Nghymru ac felly’r iaith Gymraeg. Sut, felly, mae’r cynigion yn yr ymgynghoriad yma’n cyd-fynd efo polisi miliwn o siaradwyr y Llywodraeth? Ac, onid yw peryglu dyfodol yr iaith Gymraeg yn y cymunedau gwledig yma, lle mae’r iaith Gymraeg yn fyw ac yn iach, yn mynd yn gwbl groes i’r amcanion hynny?