Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:41, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar fe wnaethoch benderfyniad ynghylch fferm wynt Hendy i adael i ganiatâd i hynny gael ei roi, er gwaethaf y ffaith bod pwyllgor cynllunio’r awdurdod lleol wedi gwrthod y cais a bod arolygydd apęliadau’r arolygiaeth gynllunio ei hun wedi gwrthod y cais. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud â Chyngor Sir Powys yn gosod parthau y byddai'n dderbyniol i ffermydd gwynt gael eu datblygu ynddynt. Mae'r cynllun datblygu unedol neu'r cynllun datblygu lleol yn y rhan honno o’r wlad yn dynodi rhai ardaloedd yn glir, ac mae Hendy, yn ôl yr hyn a ddeallaf, y tu allan i'r ardaloedd hynny. Pa hyder y gall pobl leol ei gael fod y system yn gweithio ar eu rhan pan fyddwch chi'n mynd i mewn ac yn diystyru’r pwyllgor cynllunio lleol a hefyd yr arolygiaeth gynllunio sydd wedi cadw at y rheolau?