Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Yn ddiweddar, noddais ddigwyddiad yn y Senedd gyda Cyfeillion y Ddaear Cymru a Frack-Free Wales, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n gwrthwynebu ffracio'n gryf ac wedi gweithio'n galed i'w rwystro rhag digwydd ym Mro Morgannwg. Fe ddywedoch chi'n ddiweddar yn 'Symud Cymru Ymlaen' Llywodraeth Cymru—ac rydych wedi ailddatgan eich gwrthwynebiad amlwg i ffracio heddiw. Nodwyd gennych fod gan Lywodraeth Cymru bwerau dros ffracio a'ch bod yn credu bod y math hwn o gynhyrchiant ynni yn groes i'r nodau llesiant a'n nodau amgylcheddol. Felly, rwy'n croesawu'r moratoriwm presennol ar ffracio a'r ymgynghoriad i gael gwared ar danwydd ffosil o'n cymysgedd ynni, ac i beidio â chefnogi ceisiadau ar gyfer hollti hydrolig a thrwyddedau petroliwm. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i wahardd ffracio yng Nghymru yn barhaol?