Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Yn eich ateb i mi yno, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu eich bod wedi nodi bod yr arolygydd cynllunio yn cadw at y rheolau ond eich bod chi’n anghytuno â'i gasgliad. Yn amlwg, yn ddiweddar, mewn perthynas â saethu ar dir cyhoeddus, fe anghytunodd eich adran â'r adroddiad annibynnol a gomisiynwyd ar gost o £47,000. A allwch roi syniad inni pam y mae'r adran yn mynd yn erbyn y dystiolaeth, yn enwedig mewn perthynas â’r cais penodol hwn? Fel y dywedoch, fe gadwodd yr arolygydd cynllunio at y rheolau, chi’n unig a anghytunai â'r casgliadau hynny. Pa ran o'r casgliadau rydych chi’n anghytuno'n sylfaenol â hi sy'n goresgyn y rheidrwydd cynllunio yma fod angen i drigolion lleol fod â hyder yn y ceisiadau hyn pan fyddant yn dod i'w hardaloedd?