Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch, Lywydd. Mae fferm wynt Hendy yn cael ei hadeiladu mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Mae'n berffaith amlwg o'r ateb rydych newydd ei roi i Andrew R. T. Davies, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi penderfynu ar hyn hyd yn oed cyn penodi'r arolygydd cynllunio, gan eich bod wedi dweud, i bob pwrpas, fod polisi'r Llywodraeth ar ynni adnewyddadwy yn gorbwyso unrhyw ystyriaethau cynllunio. Felly, beth ar y ddaear yw pwynt cael ymchwiliadau cynllunio yn yr amgylchiadau hyn oherwydd mae’n amlwg o'ch penderfyniad mai siarâd yn unig oedd hyn—esgus—eich bod yn ystyried y farn leol, pan nad oedd gennych unrhyw fwriad i wneud hynny?