Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am yr ateb i'r cwestiwn blaenorol, oherwydd roeddwn yn mynd i ofyn i chi am yr amserlen rydych yn ei dilyn. Dywedwch eich bod yn cyflwyno datganiad cyn toriad y Nadolig. A fydd y datganiad hwnnw'n cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni? Oherwydd ar hyn o bryd, i bob pwrpas, digwyddodd y moratoriwm yn sgil atal caniatadau cynllunio newydd yn y maes hwn. Yn amlwg, ni all hynny bara am fwy na chyfnod penodol o amser yn unig, ac o gofio ei fod yn ymrwymiad gan y Llywodraeth, pa fath o amserlen rydych chi'n ei dilyn er mwyn gweithredu'r mesurau diogelwch cryfach hyn a fydd yn amlwg yn gwella'r gallu i atal ffracio ac echdynnu nwy siâl yma yng Nghymru?