Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Rwy'n cymryd y pwynt fod gan Llywodraeth Cymru, a bod yn deg—gallwn anghytuno neu gytuno â'r polisi—bolisi o hyrwyddo ynni gwynt, ond mae polisi wedi bod ganddynt o hyrwyddo ynni gwynt mewn rhai ardaloedd a rhai parthau sydd wedi’u profi ar gyfer datblygu'r ffermydd gwynt hyn. Yma, roedd y datblygiad penodol hwn y tu allan i'r parth hwnnw ac fel y dywedais yn fy nghwestiwn agoriadol i chi, mae'r Llywodraeth wedi bod yn rhan o’r broses o nodi'r parthau hyn ac mae'r awdurdod lleol wedi cymryd rhan yn y drafodaeth honno. Sut y gall cymunedau, ac awdurdodau lleol yn arbennig, gael hyder na fyddant yn cael eu tanseilio ac na fyddant yn wynebu costau enfawr gan ddatblygwyr pan fyddwch yn gwneud penderfyniad mor fympwyol ag y gwnaethoch ar y cais penodol hwn, oherwydd roedd y caniatâd cynllunio a wrthodwyd yn cadw at y rheolau, roedd yr arolygwyr apęliadau, fel y dywedoch chi yn eich ateb, wedi cadw at y rheolau—y canllawiau cynllunio a roddwyd—ac eto fe ddaethoch chi i mewn a diystyru hynny? Mae hyn yn achosi rhwystredigaeth enfawr yn y rhan hon o ganolbarth Cymru. Ceir ardaloedd eraill o Gymru lle maent yn gweld na fyddwch yn ymyrryd pan ofynnir i chi ymyrryd wedi’u syfrdanu’n llwyr gan y penderfyniad a wnaethoch. Felly, a allwch chi egluro: a oes rhyddid llwyr bellach i unrhyw un ddatblygu ffermydd gwynt ar hyd a lled Cymru, oherwydd, fel y dywedais, mae'r cais hwn y tu allan i'r parth y gwnaethoch chi, fel Llywodraeth, ei gymeradwyo gyda'r awdurdod lleol?