Polisi Llywodraeth Cymru ar Ffracio

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:54, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu safbwynt eich Llywodraeth ar ffracio. Pa un a ellir gwneud y broses ffracio'n ddiogel ar gyfer yr amgylchedd ai peidio, tanwydd ffosil yw'r cynnyrch terfynol o hyd. Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd eich Llywodraeth hefyd yn gwrthwynebu pob trwydded ar gyfer nwyeiddio glo tanddaearol yng Nghymru, yn ogystal â thrwyddedau ar gyfer gwaith echdynnu glo newydd?