Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Yn ôl y cyfrif diwethaf, nid oedd ond 22 o wyddau talcenwyn yr Ynys Las ar y Ddyfi, a cheir gwarchodaeth gyfyngedig i'r adar sy'n gaeafu yng Nghymru y tu allan i ardaloedd lle y ceir moratoriwm gwirfoddol ar saethu. Felly, o ystyried y boblogaeth fach iawn ac mai cyfyngedig yw'r warchodaeth a geir yng Nghymru, buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai'r Gweinidog yn cyflwyno gwaharddiad cyfreithiol, ac rwy'n falch iawn fod ystyriaeth yn mynd i gael ei rhoi.