Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:47, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf fod y rhan fwyaf o bobl, ar wahân i Neil Hamilton ac aelodau o UKIP, yn derbyn bod newid hinsawdd yn digwydd a'r rhesymau drosto. Roeddwn yn aros i chi sôn am Tsieina, oherwydd rydych chi bob amser sôn am Tsieina pan fyddwn yn sôn am ynni adnewyddadwy. Ni allwch eistedd yn ôl a gwneud dim. Efallai ein bod ni yng Nghymru yn wlad fach, ond credaf ein bod yn gwbl o ddifrif yn ein cynigion i wneud popeth a allwn i liniaru newid yn yr hinsawdd. Roeddwn allan yn yr uwchgynhadledd fyd-eang ar weithredu ar yr hinsawdd yn San Francisco ym mis Medi. Roedd pobl yn edrych arnom ni fel rhai a weithredai'r arferion gorau, nid yn unig ym maes ynni adnewyddadwy, ond mewn pethau fel gwastraff ac ailgylchu. Ni allwch eistedd yn ôl a dweud, 'O wel, mae Tsieina'n gwneud hyn, felly ni ddylem ni wneud unrhyw beth.' Nid wyf yn derbyn hynny o gwbl. Ond fe hoffwn yn fawr pe baech yn edrych ar yr hyn a wnawn i liniaru newid yn yr hinsawdd ac yn ymuno â'r gweddill ohonom drwy dderbyn bod gennym ein rhan i'w chwarae.