Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:49, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Rydych yn dweud nad oes neb yn dilyn, ond yn y gynhadledd honno y soniais amdani a gynhaliwyd ym mis Medi, roedd yna 100 o wladwriaethau a rhanbarthau y buaswn yn dweud bod y rhan fwyaf ohonynt yn cyflwyno camau gweithredu tebyg i Gymru. Felly, fe sonioch chi am India, rhannais lwyfan gyda maer Delhi sy'n awyddus iawn i wneud yr hyn rydym ni'n ei wneud yng Nghymru, ac mewn gwirionedd mae'n cyflawni hynny. Felly, mae'n ddrwg gennyf, ond ni allwch eistedd yn ôl a rhoi'r bai ar bawb arall. Rhaid ichi weithredu, a rhaid ichi ddangos arweiniad.