Ad-drefnu Awdurdodau Lleol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 7 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 3:50, 7 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb gwag hwnnw. Roedd y CLlLC, sydd wrth gwrs yn gorff anetholedig arall sy'n costio tua £7 miliwn i'r pwrs cyhoeddus bob blwyddyn, i'w weld wedi drysu'n llwyr gyda'ch cynnig i leihau nifer yr awdurdodau lleol. Ai'r rheswm am hyn oedd eu bod wrthi'n ymateb yn rhagweithiol i'r rhaglen ddiwygio flaenorol, yn ogystal â datblygu agenda'r dinas-ranbarth? A waethygwyd eu dryswch ymhellach gan y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod iddynt ychydig bach cyn hynny na fyddai unrhyw ad-drefnu llywodraeth leol yn digwydd am o leiaf 10 mlynedd? A yw'n rhyfedd o gwbl felly, Ysgrifennydd y Cabinet, fod awdurdodau lleol wedi ymateb drwy ddweud bod y cyhoeddiad hwn wedi achosi anesmwythyd, dryswch ac wedi dangos diffyg eglurder sylfaenol ar ran y Llywodraeth hon, a'ch bod wedi methu gwneud achos a ddynodai y byddai'r uno arfaethedig yn cyflawni'r arbedion a ragwelwyd?