Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Credaf ein bod oll yn ymwybodol sut y mae eich Llywodraeth ac Ysgrifenyddion Cabinet blaenorol wedi cynhyrchu tri chynnig gwahanol ar gyfer llywodraeth leol, a phob un ohonynt wedi'u gwrthod yn eang gyda 21 o'n hawdurdodau lleol yn feirniadol iawn o'r cynigion hyn, ac arweinwyr cynghorau a CLlLC yn wir. Os caf, rwyf am—dywedodd Sir Gaerfyrddin eu bod yn siomedig iawn ar ôl cael sicrwydd a groesawyd yn fawr na fyddai unrhyw newid strwythurol am ddegawd. Ceredigion—'ni fyddai o unrhyw fudd i'n preswylwyr.' Conwy—nid oes unrhyw dystiolaeth gymhellol fod mwy o faint o reidrwydd yn golygu gwell; i'r gwrthwyneb, y profiad yng ngogledd Cymru yw bod creu un bwrdd iechyd mawr—wel, fe wyddom beth sydd wedi digwydd yno, oni wyddom—wedi creu problemau a fydd yn parhau i gael effaith negyddol am flynyddoedd. Ar ba bwynt fyddwch chi'n gwrando ar awdurdodau lleol, yn gweithio gyda hwy ar draws yr holl grwpiau gwleidyddol ac ar draws yr holl arweinwyr cynghorau, ac yn llunio cynllun synhwyrol i helpu awdurdodau lleol i weithio ar sail fwy rhanbarthol, i gydweithio â'r partneriaid yr ystyriant hi'n addas i weithio â hwy, a chaniatáu iddynt gymryd yr awenau ar unrhyw ddiwygio llywodraeth leol yn y dyfodol?