Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 7 Tachwedd 2018.
Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn mewn mosg ar Stryd Alice yn Butetown, yn siarad ar ôl gweddïau dydd Gwener. Mae canolfan Yemenïaidd yno a chymuned Yemenïaidd sefydledig sy'n mynd yn ôl ganrifoedd. Dywedodd pobl wrthyf pa mor falch ydynt fod ganddynt rywun â chefndir Yemeni Arabaidd wedi ei ethol i'r Cynulliad hwn am y tro cyntaf. Roedd hi'n fwy na siomedig canfod, ar ben arall y wlad, ar Ynys Môn, fod peilotiaid o Saudi Arabia yn cael eu hyfforddi i fomio Yemen, gan arwain at filoedd o farwolaethau sifiliaid. Nawr, mae rhai o'r sifiliaid hyn sy'n cael eu lladd yn aelodau o deuluoedd rhai o'r bobl y cyfarfûm â hwy ym mosg Stryd Alice. Credaf ei bod yn gwbl warthus fod ein gwlad yn cael ei defnyddio i hyfforddi peilotiaid i fomio Yemen, gwlad y mae gennym gysylltiad mor gryf â hi yn hanesyddol. Felly, a wnewch chi yn awr, os gwelwch yn dda, roi camau brys ar waith i fynnu bod hyfforddiant y peilotiaid Saudi hynny yng Nghymru yn dod i ben? Diolch.