Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Wel, rydym ni eisoes wedi ei gwneud yn glir bod awdurdodau lleol ar flaen y ciw, er bod ciw o ran cyllid, ond mae hynny'n dibynnu ar ba un a fyddwn ni yn cael symiau canlyniadol ai peidio. Yr hyn nad yw'n deg, ac nad yw'n iawn ychwaith, yw sefyllfa'n codi pan fo Llywodraeth y DU yn gorfodi costau ychwanegol ar awdurdodau lleol y disgwylir i Lywodraeth Cymru eu hariannu wedyn. Ni all hynny fod yn iawn, yn amlwg. Felly, pan fydd costau yn cael eu gorfodi gan y Llywodraeth, mae gennym ni gytundeb gydag awdurdodau lleol lle'r ydym ni'n dweud y bydd unrhyw gostau newydd yn cael eu hariannu. Mae angen i Lywodraeth y DU wneud yr un fath.