Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gwmni sydd wedi cael arian yn yr ystyr hwnnw. Yn sicr nid ydym ni wedi trefnu contractau gyda Llywodraeth Saudi Arabia, ac rydym ni'n rhannu pryder Llywodraeth y DU, nid yn unig o ran yr hyn sydd wedi digwydd yn Yemen, ond wrth gwrs llofruddiaeth y newyddiadurwr, Khashoggi, yn Nhwrci, sydd wedi cael cymaint o gyhoeddusrwydd. Mae cwestiynau i Saudi Arabia eu hateb, ac rwy'n cytuno ag ef y dylem ni fod yn ofalus iawn, fel y mae pethau ar hyn o bryd, gyda'r ddwy sefyllfa hynny o ran y ffordd yr ydym ni'n ymgysylltu â Llywodraeth Saudi.