Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 13 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:51, 13 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, rydych chi'n dweud ei fod yn eu paratoi'n well, ond mae hefyd yn eu rhwystro rhag cael eu derbyn ar y cyrsiau gorau. Nawr, roeddech chi eisiau—[Torri ar draws.] Roeddech chi eisiau tystiolaeth, felly gwrandewch ar rywfaint o dystiolaeth. Rydym ni'n gwybod o geisiadau rhyddid gwybodaeth bod prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt wedi gwneud 153 o gynigion amodol i fyfyrwyr o Gymru yn 2017, ac nid oedd yr un ohonyn nhw yn cynnwys bagloriaeth Cymru. Dywedodd Coleg Imperial Llundain nad yw'n arfer safonol gwneud cynigion sy'n cynnwys bagloriaeth Cymru. Yn wir, o 19 o brifysgolion Grŵp Russell, gwnaeth 14 ohonynt fwy o gynigion amodol nad oeddent yn cynnwys bagloriaeth Cymru i fyfyrwyr yng Nghymru na'r rhai a oedd yn ei gynnwys. Felly, a fyddech chi'n cytuno, yn seiliedig ar y dystiolaeth ger ein bron, nad yw bagloriaeth Cymru yn gwneud dim i helpu myfyrwyr Cymru i gael eu derbyn i'r prifysgolion gorau ac yn gwneud popeth, mewn gwirionedd, i'w rhwystro? A ydych chi'n cytuno â mi y dylai eich Llywodraeth ystyried o ddifrif diddymu bagloriaeth Cymru yn gyfan gwbl?