Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, un o'r polisïau cynnar a ddeddfwyd gan Lywodraeth Cymru oedd cyflwyno cymhwyster addysgol newydd, bagloriaeth Cymru, neu 'bac Cymru', fel y'i gelwir. Mae bagloriaeth Cymru wedi cael ei feirniadu, felly a ydych chi'n dal i gredu ei fod wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr at y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru?