Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 13 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 13 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r strwythur yno, wrth gwrs. Rydym ni wedi cael blynyddoedd o ymdrin â chyllid Ewropeaidd. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac adrannau eraill wedi hen arfer ymdrin â'r math hwn o strwythur ariannu. Nid yw'r gronfa ffyniant gyffredin yn syniad gwael ynddo'i hun. Faint o arian fydd ar gael a sut y caiff ei weinyddu sy'n peri pryder i ni. Mae'n aruthrol o bwysig, fel y mae'r Aelod ei hun, a bod yn deg, wedi dweud, bod hyn i bob pwrpas yn disodli'r cronfeydd Ewropeaidd o ran y swm gwirioneddol sydd ar gael ond bod cyfrifoldebau a hawliau'r Siambr hon a'r Llywodraeth yn cael eu hamddiffyn wrth i'r gronfa ffyniant gyffredin gael ei datblygu. Byddai'n well gennym fod yn rhan o'r sgwrs honno i wneud yn siŵr bod y gronfa yn gweithredu nid yn unig cyn belled ag mae Cymru yn y cwestiwn ond yn gweithio'n iawn ar draws y DU gyfan.