Y Cyfrif Refeniw Tai

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 13 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:56, 13 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Mae codi'r cap benthyg ar y cyfrif refeniw tai yn arwyddocaol. Mae i'w groesawu yng Nghymru. Mae'n dro pedol, ond, serch hynny, rydym ni'n croesawu'r hyn a wnaed. Bydd yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu strategaethau adeiladu tai cyngor. Ac rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r awdurdodau hynny i ddeall y manteision yn llawn.