Y Cyfrif Refeniw Tai

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 13 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:57, 13 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Ydy, mae hynny'n wir. Un peth y gallaf ei ddweud yw bod y Gweinidog wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'r cyflenwad tai fforddiadwy. Mae hwnnw'n ystyried amrywiaeth o bolisïau a phrosesau i sicrhau ein bod ni'n sicrhau'r nifer fwyaf bosibl o gartrefi yr ydym ni'n eu cael o'n buddsoddiad sylweddol. Ac, wrth gwrs, bydd codi'r cap benthyg yn rhan o ystyriaeth y panel, ac rydym ni'n disgwyl argymhellion gan y panel hwnnw ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.