Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Rwy'n credu ei bod hi'n deg i ddweud ei bod hi'n eithaf amwys ar hyn o bryd, ac yn eithaf aneglur o ran sut y gallai weithredu neu faint o arian a allai fod ar gael. Fe'i codais, yn sicr, yr wythnos diwethaf gyda David Lidington. Nid yw'n eglur sut y byddai'n gweithio, faint o arian fyddai ar gael nac, wrth gwrs, sut y byddai'n gweithio o ran asio â'r setliad datganoli. Yn syml, mae'n rhaid i ni aros i weld.