Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Ni allaf roi ymateb ynghylch yr argymhellion y mae'r pwyllgor wedi eu cyflwyno, ond fe ddywedaf hyn: yn amlwg mae'r adroddiad yn anodd ei ddarllen, yn amlwg, mae angen gweithredu, a byddwn yn gweithredu. Byddwn yn gweithredu o ran cyllid, ond yn amlwg mae angen gweithredu o ran derbyn ffyrdd newydd o weithio. Ni allwn barhau â'r hen ffyrdd o weithio dim ond am fod pobl wedi dod i arfer â nhw. Felly, bydd ymateb y Llywodraeth i adroddiad y pwyllgor yn cwmpasu holl nodweddion yr hyn y mae'n rhaid i ymateb cadarn fod a'r hyn y mae'n rhaid i ymateb adeiladol fod, gan edrych ar yr holl ffactorau, gan gynnwys, wrth gwrs, ffactorau ariannol.