Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Wel, dim ond i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach, mae awdurdodau lleol ar flaen y ciw. Rydym ni'n ceisio gweld pa fath o becyn ariannol pellach y gellid ei roi ar gael i awdurdodau lleol, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n ei ystyried yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf. Rydym ni'n deall, wrth gwrs, y ffaith bod cyni cyllidol wedi gorfodi cymaint o wasgfa ar gyllid awdurdodau lleol, ac rwy'n credu, pan fyddwn ni'n datgan i'r Cynulliad sut yr ydym yn bwriadu ymdrin â'r swm nad yw'n unrhyw beth tebyg i'r swm a gyhoeddwyd gan y Canghellor, ond er gwaethaf hynny rhywfaint o swm canlyniadol yr ydym ni wedi ei dderbyn yng Nghymru, bydd y pecyn sydd gennym ni ar gyfer llywodraeth leol yn deg o ystyried yr amgylchiadau yr ydym ni wedi canfod ein hunain ynddynt.