Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Wel, Dai Lloyd, diolch ichi am y pwyntiau yna. Rwyf i, yn un, yn rhywun sy'n croesawu'r broses o greu swyddi yn ardal Abertawe, etholaeth fy nghyd-Aelod, Mike Hedges. Credaf fod cyngor Abertawe a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithio'n galed iawn, mewn gwirionedd, i gael mewnfuddsoddiad i'r safle hwnnw. Rwyf yn bendant iawn o blaid y swyddi sy'n dod yno, ac rwy'n credu y dylid llongyfarch cyngor Abertawe ar ei ymdrechion yn hyn o beth.