Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Arweinydd y tŷ, a fyddai modd ichi roi gwybod i'r Aelodau pryd yr ydych yn disgwyl gallu gwneud datganiad ar lot 2 yng ngham 2 rhaglen Cyflymu Cymru? Gwelaf eich bod chi'n gwenu wrth imi ofyn y cwestiwn. Ac, yn ail, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch pa bryd y bydd ef yn rhoi copi i'r Aelodau o'r llythyr cylch gwaith a chynllun busnes ar gyfer Trafnidiaeth Cymru fel yr ymrwymodd i'w wneud eisoes? Credaf y dylai llythyr cylch gwaith ar gyfer Trafnidiaeth Cymru fod ar gael eisoes i'r Aelodau erbyn hyn.