Part of the debate – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 13 Tachwedd 2018.
Diolch yn fawr iawn i Suzy Davies am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig i ni gydnabod gwaith y Pwyllgor yn hyn o beth. Pan edrychodd y pwyllgor ar y cwricwlwm, hwn oedd argymhelliad Rhif Un y pwyllgor: mae angen i ni, fel Llywodraeth, fynd i'r afael ag anghenion dysgu proffesiynol y staff, os ydym eisiau datblygu amcanion y cwricwlwm. Rwy'n gobeithio bod yr aelodau o'r Pwyllgor a weithiodd ar yr adroddiad hwnnw yn falch ein bod wedi cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth wrth wneud hyn.
Gadewch imi fod yn gwbl glir ynglŷn â'r ffordd y bydd yr arian yn cyrraedd y rheng flaen. Yn y flwyddyn ariannol hon, dyrennir yr arian i'r consortia rhanbarthol, sydd wedi bod yn ymwneud â datblygiad y rhaglen hon ac sy'n hyderus y gallwn anfon yr adnoddau hynny i'r rheng flaen. Nid ydym yn dechrau o'r dechrau. Ceir sylfaen eang o dystiolaeth a gafwyd eisoes, ac mae ein hysgolion arloesi sy'n ymwneud â dysgu proffesiynol wedi bod yn arbrofi gyda rhai o'r technegau hyn eisoes. Felly, nid cychwyn stond yw hwn. Caiff ei lywio gan ymarfer sydd eisoes wedi ei wneud mewn ysgolion, ac mae rhai enghreifftiau gwych y gallaf gyfeirio atyn nhw. Er enghraifft, Ysgol Brenin Harri'r VIII yn y Fenni: arloeswr cymharol newydd ym maes datblygiad proffesiynol, ond yn gweithio yn galed iawn, iawn, nid yn unig o fewn eu hysgol eu hunain, ond mewn gwirionedd gydag ysgolion y clwstwr o'i chwmpas, i edrych o ddifrif ar beth yw'r anghenion a'r cyfleoedd dysgu proffesiynol os ydym eisiau bod yn barod ar gyfer y cwricwlwm—yn rhagweithiol iawn. Ysgol Gynradd Romilly: unwaith eto, enghraifft arall lle mae'r mapio wedi cael ei wneud eisoes ar gyfer unigolion i nodi beth y maen nhw'n ei deimlo sydd ei angen i'w paratoi ar gyfer bod yn barod i'r cwricwlwm newydd. Ond, yn amlwg, bydd yn rhaid i rywfaint o'r gwaith hwn gael ei ddatblygu ymhellach pan fydd manylion y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cael eu rhyddhau yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn llywio ein trafodaethau parhaus am yr hyn sy'n angenrheidiol.
Grant a neilltuir i'r awdurdodau lleol fydd yr arian ar gyfer y flwyddyn nesaf, a bydd yn rhaid gwario'r arian i'r dibenion hyn. O ran arian i gonsortia ac i ysgolion fel ei gilydd, byddwn yn ceisio sicrhau bod tryloywder yn y dull o ddyrannu adnoddau a hefyd yn y gwaith o fonitro'r cyllid. Nawr, mae cydbwysedd i'w daro bob amser, onid oes, rhwng creu swm enfawr o fiwrocratiaeth, yn enwedig i ysgolion unigol, i roi cyfrif am arian, a gwneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr hyn y mae wedi ei fwriadu ar ei gyfer. Felly, byddwn yn gweithio gyda'r consortia rhanbarthol, y bydd yn ofynnol iddyn nhw gyhoeddi eu cynlluniau gwariant ar gyfer yr arian, a byddwn yn monitro'r niferoedd sy'n manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol yn ôl y grwpiau proffesiynol ac yn ôl yr ysgolion unigol. Felly, byddwn yn disgwyl casglu'r data hynny fel y gallwn fodloni ein hunain ynghylch y defnydd a wneir o'r arian. Ond mae'n rhaid taro cydbwysedd rhwng creu hunllef fiwrocrataidd i bobl a chaniatáu i'r arian gael ei ddefnyddio at y dibenion a fwriedir.
Nid oes cweryl rhwng fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau. Nid oes mantais i mi o fod yn cweryla. Rwy'n credu ichi ddweud mod i'n 'dadlau' ag ef. Ond mae ef yn ymwybodol, os yw'n cwricwlwm am fod yn llwyddiant, yna bydd raid inni fuddsoddi yn ein hathrawon i'w galluogi i gyflawni hynny. Bydd yr holl waith yr ydym wedi ei wneud ar y cwricwlwm yn mynd i'r gwellt os na fydd ein hathrawon mewn sefyllfa i roi hwnnw ar waith yn llwyddiannus ar ran eu disgyblion. Yr enghreifftiau o'r mathau o bethau y bydd angen i ysgolion eu harchwilio—byddwn yn edrych ar oblygiadau'r cynnwys newydd, dulliau newydd o gynllunio a gwireddu dysgu, dulliau newydd o asesu cynnydd plant, datblygu'r sgiliau ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm ar lefel ysgol—rhywbeth nad yw ysgolion efallai mor gyfarwydd â'i wneud—datblygu trefniadau cydweithredol ar gyfer y cwricwlwm ar lefel ysgol o 4 i 19 oed, felly mewn gwirionedd gwneud yn siŵr bod ysgolion cynradd ac uwchradd yn cydweithio i sicrhau bod llwybr i'w gael ar gyfer dysgwyr unigol. Goblygiadau, er enghraifft, y meysydd dysgu a phrofiad—bydd gennym faes dysgu a phrofiad newydd, sef iechyd a lles. Bydd hynny, mewn rhai ffyrdd, yn her i'r sector yn y maes arbennig hwn, a dyna pam mae angen i ni wneud yn siŵr y bydd ein hathrawon yn hyderus y gallan nhw fanteisio i'r eithaf ar y cyfle o fod â'r maes dysgu a phrofiad newydd o iechyd a lles.
At ba ddiben y disgwyliwn i'r arian gael ei ddefnyddio? Wel, rydym yn hyderus bod ysgolion mewn sefyllfa i fapio anghenion dysgu eu hathrawon. Byddwn yn disgwyl iddyn nhw ddefnyddio'r arian i ryddhau a llenwi bylchau gydag amser y staff ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgarwch ar y cyd. Mae hynny'n anodd iawn yn aml. Rwy'n credu i ni gael y sgwrs hon yr wythnos o'r blaen yn y pwyllgor wrth drafod yr adegau y bydd cyllidebau yn gyfyng, y bydd y gallu i ryddhau staff ar gyfer hyfforddiant yn diflannu. Mae hyn nawr yn golygu y bydd adnoddau wedi eu neilltuo i ganiatáu i hynny ddigwydd.
Rwy'n ymwybodol iawn ac yn effro i'r pwysau sylweddol sydd ar lywodraeth leol. Byddwch wedi clywed ateb y Prif Weinidog heddiw o ran y Llywodraeth yn parhau i fwrw golwg ar beth arall y gallwn ei wneud i ysgafnhau'r pwysau. Rwy'n siŵr, pe bai'r Llywodraeth mewn sefyllfa i wneud hynny, byddai'r awdurdodau lleol yn awyddus i flaenoriaethu gwariant ar ysgolion a sicrhau bod plant yn eu hardal leol yn cael y cyfleoedd gorau posibl. Ond wedi gwneud hynny, bydd angen inni wneud yn siŵr bod gan yr athrawon hynny yn y stafell ddosbarth y sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnyn nhw. Wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor, rydym yn ymateb hefyd i alwadau cyson gan yr undebau i fod â'r arian hwn yn ei le, ac roeddwn yn hapus iawn ddoe i weld y croeso cynnes iawn a roddodd undebau'r athrawon i'r cyhoeddiad hwn.