Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 14 Tachwedd 2018.
Diolch, Lywydd. Neithiwr, wrth gwrs, datgelwyd bod y DU a'r UE wedi cytuno ar y testun drafft ar gyfer gwahaniad y DU oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r dadlau gwleidyddol yn sgil hynny eisoes wedi cychwyn. Rwy'n amau fy mod yn gwybod beth yw'r ateb i'r cwestiwn agoriadol, ond ar gyfer y cofnod, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru wedi gweld y testun drafft ai peidio? Ac a yw Prif Weinidog y DU a Phrif Weinidog Cymru wedi cael trafodaeth ynglŷn â chynnwys y testun drafft hwnnw, naill ai dros nos neu heddiw?