Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 14 Tachwedd 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:48, 14 Tachwedd 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â'r arian sydd ar gael i'r portffolio llywodraeth leol a thrwy hynny i'n hawdurdodau lleol. Fel y gwyddoch, mae awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn llai na bodlon gyda'r setliad llywodraeth leol eleni, gan nodi gwerth £262 miliwn o bwysau cyllidebol. Yn y cyfamser, mae'r Prif Weinidog wedi honni y bydd llywodraeth leol ar flaen y ciw pe bai arian ychwanegol ar gael o gyllideb Llywodraeth y DU ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud y bydd llywodraeth leol yn flaenoriaeth allweddol pe bai'r cyllid ychwanegol hwnnw ar gael. Gan fod Llywodraeth y DU yn darparu oddeutu £550 miliwn o gyllid ychwanegol dros y tair blynedd nesaf, faint o'r swm hwn fydd yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol Cymru?